P-03-196 - Sicrhau bod Sutent ar gael

Derbyniwyd y ddeiseb: 16 Rhagfyr 2008

Prif ddeisebydd: Joanne Popham

Nifer y deisebwyr: 7981

Geiriad y ddeiseb:

Helpu i ymestyn bywyd Paul Popham a bywydau cleifion canser yr arennau y gwrthodir triniaeth iddynt ar hyn o bryd. Dim ond 63 oed yw Paul Popham ac mae’n byw yn Nhreforys, Abertawe.  Cafodd ddiagnosis o ganser yr arennau ar 27 Hydref 2008.  Mae ei feddyg ymgynghorol am ragnodi Sutent iddo, sydd yn driniaeth nad yw Bwrdd Iechyd Lleol Abertawe yn ei hariannu. Nid yw hwn yn achos unigryw. Mae tua 6,200 o bobl yn cael diagnosis o ganser yr arennau bob blwyddyn. Mae’n bosibl y bydd angen cyllid ar gyfer meddyginiaeth canser ar 3,000 o’r cleifion hyn. Mae’n rhaid i’r rhai sydd angen Sutent arnynt apelio at ei Bwrdd Iechyd Lleol am y cyllid hwn.

Mae hon yn sefyllfa afresymol a chreulon i gleifion canser. Mae rhai Byrddau Iechyd Lleol yn derbyn tystiolaeth gan uwch feddygon ymgynghorol canser, ond mae awdurdodau eraill yn gorfodi cleifion sydd mewn sefyllfa ddifrifol ac sy’n sâl i oddef proses hir a chymhleth o achosion eithriadol/apeliadau, ac yna’n anwybyddu barn y meddyg ymgynghorol ac yn gwrthod ariannu’r driniaeth a argymhellwyd.

Mae’n annerbyniol ac yn anfoesol y gwrthodir y feddyginiaeth hon i gleifion canser yr arennau o Brydain, sydd heb obaith arall, a’u bod yn cael eu dedfrydu i farwolaeth gynamserol.  Llofnodwch isod i roi pwysau ar Lywodraeth Cynulliad Cymru i ymroi’n bersonol i wneud pob dim sydd o fewn eu gallu i sicrhau bod y feddyginiaeth hon ar gael i’r cleifion hyn heddiw!  

Statws y ddeiseb: Wedi cau ar 10 Chwefror 2009

Linc i drawsgrifiad y cyfarfod ar 10 Chwefror 2009

Linc i'r Adroddiad Cwblhau ar gyfer P-03-196 (PDF 296KB)

Ystyried gan y Pwyllgor Deisebau

  • 13 Ionawr 2009

Linc i drawsgrifiad y cyfarfod ar 13 Ionawr 2009

Rydych chi yma :

  1. Hafan
  2. Cymryd rhan
  3. Deisebau

Partneriaid a Help