P-03-070 - Deiseb i ‘alw i mewn’ gais cynllunio MC/2006/00540 a gyflwynwyd i Gyngor Sir Mynwy ynghylch Marchnad Wartheg Arfaethedig ar Fferm High House, Bryngwyn
Derbyniwyd y ddeiseb: 3 Awst 2007
Y prif ddeisebydd: Mr Stuart Willcock
Nifer y deisebwyr: 10
Geiriad y ddeiseb:
Mae’r rheini ohonom sydd wedi llofnodi’r ddeiseb hon yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i ‘alw i mewn’ gais cynllunio MC/2006/00540 a gyflwynwyd i Gyngor Sir Mynwy. Mae’r cais cynllunio’n cynnig adeiladu marchnad wartheg ar dir amaethyddol agored ar Fferm High House, Bryngwyn.
Cyflwynir y cais hwn am y rhesymau a ganlyn:
1) Mae’r cais cynllunio’n gwrthdaro â pholisïau cynllunio cenedlaethol o ran defnyddio safle tir glas pan fo safleoedd tir llwyd ar gael a bod caniatâd cynllunio eisoes wedi’i roi i ddefnyddio’r safleoedd hyn at ddibenion marchnad wartheg.
2) Oherwydd maint y datblygiad arfaethedig, mae i’r cais cynllunio oblygiadau rhanbarthol. Byddai’n effeithio ar farchnadoedd gwartheg sy’n gweithredu ledled De Cymru, Swydd Gaerloyw a Swydd Henffordd.
3) Mae’r cais cynllunio’n ddadleuol iawn ac mae wedi codi pryderon tu hwnt i’r gymuned leol am y rhesymau isod:
a) mae’r Awdurdod Lleol yn defnyddio trydydd parti i wneud y cais a thrwy hynny’n ceisio osgoi craffu trylwyr;
b) mae’r Awdurdod Lleol wedi gwrthod cyfathrebu â’r Cynghorau Cymuned y mae’r cais yn effeithio arnynt;
c) mae’r Awdurdod Lleol yn debygol o dderbyn dros £10 miliwn drwy ganiatáu’r datblygiad hwn a bydd hyn yn rhoi pwysau gormodol ar yr Adran Gynllunio;
d) bu i’r Awdurdod Lleol brynu’r tir, yn benodol er mwyn datblygu marchnad wartheg, gan wybod ei fod wedi’i lygru â botwliaeth a chan beri risg y bydd achosion o’r haint yn codi ledled y rhanbarth.
Rydym yn fodlon darparu unrhyw wybodaeth ychwanegol y mae ei hangen arnoch i ddod i benderfyniad.
Statws y ddeiseb: Wedi cau ar 17 Ionawr 2008
Linc i drawsgrifiad y cyfarfod ar 17 Ionawr 2008