Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Y Ddeddf Safleoedd Carafannau a Rheoli Datblygu 1960

Yr ydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cynulliad Cymru i atgoffa pob awdurdod lleol o’r rheoliadau dan Ddeddf Safleoedd Carafannau a Rheoli Datblygu 1960.

Gwybodaeth ychwanegol (cyflenwyd gan y Deisebydd)

‘Yn gyntaf, Rhan 1 (1) ei bod yn drosedd i ddefnyddio tir fel safle carafanau heb gael trwydded safle carafanau,

Yn ail,  Rhan 3 (3) Mae’n rhaid i safle carafanau fod wedi cael caniatâd cynllunio dan Ran Tri o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 cyn y gellir rhoi trwydded safle ac NID trwy dystysgrif datblygiad cyfreithlon.

Yn drydydd, os bydd preswyliwr yn mynd yn groes i Ran 1 (1)  sydd, yn ei dro yn euog o drosedd, yna ar gollfarn ddiannod, gall gael ei ddirwyo hyd at Lefel 4 ar y raddfa safonol (£2,500:00p) yn hytrach na chael ei wobrwyo â datblygiadau hael fel sy’n digwydd ar hyn o bryd.          

Daeth i’m sylw bod cynghorydd/Ynad Heddwch wedi arwyddo datganiad ei fod wedi bod yn defnyddio’i dir fel safle carafanau, heb drwydded safle carafanau na chaniatâd cynllunio am y deng mlynedd diwethaf, fe ddylai fod wedi cael ei erlyn am y drosedd ddifrifol hon, ond, fel troseddwr cafodd ei wobrwyo’n hael â datblygiad safle carafanau (Tystysgrif datblygiad cyfreithlon).

Diben Deddf 1960 yw rhoi taw ar hyn. Mae’r troseddwr wedi datgan ei fod yn euog o drosedd dan Rhan 1(1) o Ddeddf 1960.’

Statws y ddeiseb

Statws y Ddeiseb: Deiseb wedi cau ar 2 Hydref 2008

Dyddiad derbyn y ddeiseb: 03 Gorffenaf 2008

Duddiad cau ar gyfer llofnodion: 01 Awst 2008

Ystyried gan y Pwyllgor Deisebau:

  • 2 Hydref 2008

Linc i drawsgrifiad y cyfarfod ar 2 Hydref 2008

Prif ddeisebydd

Deiseb wedi ei chodi gan: Gordon Pritchard

Llofnodwyr y ddeiseb

Name / Enw County / Sir Date Added / Dyddiad
Mr Dylan Horman Anglesey 07/07/08
Lewis Connor Anglesey 30/06/08
Beryl M Clough Anglesey 26/06/08
Owain Banfield Monmouthshire 25/06/08
Geoffrey D.V.Williams Carmarthenshire 25/06/08
Mrs Hazel L. Tricker Gwynedd 20/06/08
Mr David J. Tricker Gwynedd 20/06/08
James Bowtell Rhondda Cynon Taff 17/06/08
William David Pritchard Cheshire 16/06/08
Hannah Lowri Pritchard Cardiff 13/06/08
Siobhan Hughes Gwynedd 13/06/08
Emma Pritchard N. Wales 13/06/08
Gordon Pritchard 13/06/08