Deisebau
Mae deiseb yn ffordd o ofyn i'r Cynulliad Cenedlaethol ystyried unrhyw fater, problem neu gynnig sydd o fewn pwerau'r Cynulliad. Y Llywydd sy'n penderfynu os yw deiseb yn dderbyniadwy, ac mae'r rheolau sefydlog yn golygu bod y Cynulliad yn gorfod ystyried unrhyw ddeiseb dderbyniadwy. Mae'r Cynulliad wedi sefydlu Pwyllgor Deisebau i ystyried deisebau derbyniadwy a phenderfynu pa gamau y dylid eu cymryd.
Rydym yn ymwybodol bod rhai defnyddwyr yn cael problemau wrth geisio llofnodi e-ddeisebau. Os ydych wedi cael unrhyw broblemau:
· cysylltwch â ni drwy’r ffurflen electronig
· anfonwch e-bost i gwefan.cynulliad@cymru.gsi.gov.uk
· ffoniwch ein llinell wybodaeth: 0845 010 5500. Ein rhif ffon testun yw 0845 010 5678
Rydym yn ymddiheuro os yw hyn wedi peri unrhyw anghyfleustra i chi.
Y Tîm Deisebau
Creu a chyflwyno e-Ddeisebau
Gallwch lawrlwytho templed deiseb, a chyflwyno deiseb i Gynulliad Cenedlaethol Cymru drwy'r wefan.
Creu a chyflwyno e-Ddeisebau >>
Darllen a llofnodi e-Ddeisebau
Gallwch weld yr holl ddeisebau a gyflwynwyd i'r trydydd Cynulliad, a llofnodi unrhyw e-ddeiseb sydd ar agor yn yr adran hon.
Darllen a llofnodi e-Ddeisebau >>
Arweiniad ar e-Ddeisebau
Mae'r adran hon yn rhestru pa bynciau y gellir eu trafod drwy'r broses ddeisebau, a sut mae proses ddeisebau Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gweithio.
Arweiniad ar e-Ddeisebau >>
Telerau ac amodau ar gyfer e-Ddeisebau
Mae'n rhaid i ddeiseb sydd wedi'i chyflwyno i'r Cynulliad fodloni ein telerau ac amodau cyn y gellir ei hystyried yn dderbyniadwy. Gellir gweld y telerau ac amodau yn yr adran hon.
Telerau ac amodau ar gyfer e-Ddeisebau >>
Pwyllgor Deisebau
Rôl y Pwyllgor Deisebau yw ystyried deisebau derbyniadwy a gyfeiriwyd gan y Llywydd yn unol â Rheol Sefydlog 28.8. Gallwch weld tudalennau'r pwyllgor yn yr adran hon.
Pwyllgor Deisebau >>