P-03-056 - Cau Cartref Preswyl Glyndulais, y Creunant, ym mwrdeistref sirol Castell-nedd Port Talbot
Derbyniwyd y ddeiseb: 14 Mai 2007
Prif ddeisebydd: Derek Brown
Nifer y deisebwyr: 33
Geiriad y ddeiseb:
At Gynulliad Cenedlaethol Cymru
Rydym ni, sydd wedi llofnodi isod, yn gwneud y datganiad a ganlyn:-
Ar 29 Mawrth penderfynodd Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot gau Cartref Preswyl Glyndulais, y Creunant.
Caiff Glyndulais ei gydnabod fel cartref sy’n darparu gofal eithriadol i’w breswylwyr, ac mae rhai ohonynt yn byw yno ers nifer o flynyddoedd. Dyma’n wir yw eu “cartref”, eu hunig gartref, ac mae’r staff yn trin y preswylwyr fel aelodau o’u teuluoedd estynedig eu hunain. Mae rhai o’r preswylwyr yn hawdd i’w niweidio ac yn fregus ac nid oes ganddynt berthnasau. Mae’r bygythiad hwn i gau’r cartref, a fyddai’n golygu y byddent yn colli eu cartref, wedi cael effaith drawmatig arnynt. Bydd eu safon byw yn dirywio ymhellach os cânt eu hanfon i gartrefi eraill gan ei gwneud yn anoddach i’w cyfeillion a’u teuluoedd ymweld â nhw.
Mae’r deisebwyr felly’n gofyn i Gynulliad Cenedlaethol Cymru alw ar y person neu’r corff priodol i sicrhau bod preswylwyr Cartref Preswyl Glyndulais, y Creunant, yn cael aros yn eu cartref cyhyd ag y mynnant.
Statws y ddeiseb: Wedi cau ar 20 Medi 2007
Linc i drawsgrifiad y cyfarfod ar 20 Medi 2007