P-03-059 - Deiseb gan Sefydliad Aren Cymru i gynyddu nifer y rhoddwyr organau yng Nghmru
Derbyniwyd y ddeiseb: 10 Gorffennaf 2007
Prif ddeisebydd: Sefydliad Aren Cymru
Nifer y deisebwyr: 2
Geiriad y ddeiseb:
Rydym ni, y rhai sydd wedi arwyddo isod, yn datgan yr angen i gynyddu nifer y bobl yng Nghymru sy’n cario cardiau rhoi organau. Rydym yn cefnogi’r honiad yn y datganiad a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cynulliad Cymru yn ddiweddar o dan y teitl ‘Dyluniwyd i fynd i’r afael ag afiechyd arennol’, sef “...nad yw’r cyflenwad o arennau sy’n cael eu rhoi … yn ateb y galw, ac o ganlyniad, mae rhestr aros sy’n parhau i gynyddu ar gyfer triniaeth o’r fath.” Mae tua 22% o boblogaeth Cymru a fyddai'n gymwys i roi organau wedi eu cofrestru ar Gofrestr Rhoddwyr Organau'r GIG, er bod 70% o boblogaeth Cymru wedi nodi y byddent yn barod i fod yn rhan o gynllun o’r fath. Rydym ni, y rhai sydd wedi arwyddo isod, yn cydnabod bod angen ymgyrch unedig i gynyddu’r nifer o roddwyr organau arfaethedig drwy fuddsoddiad parhaus mewn cyhoeddusrwydd ac mewn ymgyrchoedd addysgol i gynyddu ymwybyddiaeth y cyhoedd o’r angen am organau, annog pobl i ymuno â’r gofrestr rhoddwyr organau a rhoi gwybod i’r rhai sy’n agos iddynt am eu dymuniadau. Yn hanesyddol, mae Sefydliad Aren Cymru wedi chwarae rhan allweddol yn hyrwyddo’r syniad o roi organau yng Nghymru, ac mae'n dymuno parhau i amlygu pwysigrwydd rhoi organau. Gan hynny, mae’r deisebwr/deisebwyr yn gwneud cais/yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i weithio â Sefydliad Aren Cymru a deiliaid diddordeb eraill i osod a chyflawni nod o ddyblu rhoddwyr arennau yng Nghymru erbyn diwedd y Cynulliad Cenedlaethol hwn yn 2011. Rydym yn gofyn i’r Cynulliad roi arian cyfatebol ar gyfer ymgyrch drwy ateb ein cyfraniad bunt am bunt.Statws y ddeiseb: Wedi cau ar 2 Hydref 2008
Linc i'r Adroddiad Cwblhad ar gyfer P-03-059 (PDF, 185KB) (Atodiadau yn Saesneg yn unig)
Ystyried gan y Pwyllgor Deisebau
20 Medi 2007
Linc i drawsgrifiad y cyfarfod ar 20 Medi 2007
4 Hydref 2007
Linc i drawsgrifiad y cyfarfod ar 4 Hydref 2007
22 Tachwedd 2007
Linc i drawsgrifiad y cyfarfod ar 22 Tachwedd 2007
2 Hydref 2008
