Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Deiseb o’r Galon i'r Cynulliad Cenedlaethol

Derbyniwyd y ddeiseb: 10 Gorffennaf 2007

Prif ddeisebydd: Vivienne Hadley

Nifer y deisebwyr: 33

Geiriad y ddeiseb:

Gan Etholwyr Merthyr Tudful

Yn datgan nad yw trigolion Merthyr Tudful ar hyn o bryd yn derbyn gwarchodaeth Clustogfa 500 metr rhwng wyneb y gwaith Glo Brig a chartrefi ac ysgolion, er gwaethaf deisebau lu dros y ddwy flynedd diwethaf, gyda dros 25,000 yn apelio am gynnwys gwarchodaeth clustogfa o’r fath mewn caniatadau cynllunio – nid oes unrhyw Awdurdod wedi ystyried lles pobl yn flaenoriaeth, a dyfarnu’r mesur diogelu hwn.

O fewn y cyd-destun hwn o ddiffyg cyfaddawd gwleidyddol a biwrocrataidd, trown yn barchus at Aelodau Cynulliad Llywodraeth y Cynulliad i erfyn arnynt i gydnabod hawl holl drigolion Cymru i gael y warchodaeth ‘deg’ y gallai trigolion eraill gwledydd Prydain ei disgwyl, sef yr hawl diymwad i anadlu aer glân, a chael gwarchodaeth clustogfa sydd wedi ei diffinio’n glir, sef o leiaf 500 metr.

Mae deisebwyr felly’n gofyn i’r Cynulliad, ar fyrder, gyfarwyddo’r Prif Weinidog - Rhodri Morgan, i ganiatáu i’r Gweinidog dros Gynllunio a’r Amgylchedd ddefnyddio ei bwerau i naill ai wyrdroi’r penderfyniad cynllunio hwn ynghylch safle Ffos y Fran ym Merthyr Tudful a fethodd â thalu sylw digonol i bryder a dicter y cyhoedd bod deunydd gwenwynig yn cael ei gorddi ar y safle dywededig - i sicrhau y byddai unrhyw gais diwygiedig yn rhwym, yn ôl y gyfraith, i gynnwys darpariaeth gwarchodaeth clustogfa o 500 metr.

Neu bryd hyn, yn ôl-weithredol, gan ddefnyddio ei bwerau dewisol helaethaf, dyfarnu cynnwys clustogfa 500 metr o bellter rhwng y safle hwn ac yn benodol cartref ac ysgolion er mwyn rhwystro corddi gwastraff gwenwynig.

Mae’r Senedd wedi ein hysbysu bod gan y Cynulliad Cenedlaethol y pwer a’r awdurdod i wneud y penderfyniad hwn hyd yn oed mor hwyr yn y dydd â hyn - yr ydym ni, y bobl a fydd yn dioddef effaith y safle hwn, yn wylaidd ac yn daer, yn gofyn i chi ystyried dymuniadau’r 25,000 o bobl a lofnododd yr amrywiol ddeisebau.

Ar ôl gosod ein deisyfiadau ger eich bron rydym ni, y Deisebwyr, sy’n drigolion ac yn ddinasyddion sy’n parchu’r gyfraith yng ngwledydd Prydain, yn parhau’n llawn parch ac yn ddyledus i’ch amynedd didwyll yn caniatáu i ni gyflwyno’r ddeiseb hon.

Statws y ddeiseb: Wedi cau ar 17 Ionawr 2008

Linc I drawsgrifiad y cyfarfod ar 17 Ionawr 2008