Cynulliad Cenedlaethol Cymru

P-03-061 - M Tan Glo

Derbyniwyd y ddeiseb: 10 Gorffennaf 2007

Prif ddeisebydd: Mrs G. M. Ball

Nifer y deisebwyr: 77

Geiriad y ddeiseb:

Hoffem fanteisio ar y cyfle i ddefnyddio’r system ddeisebau dan bwerau newydd Llywodraeth y Cynulliad.

Mae’r Ddeiseb yn galw am M TAN Glo cryfach a fydd yn darparu:-

  • Rhagdybiaeth lem yn erbyn gwaith glo brig yn ein cymunedau gydag unrhyw gais newydd neu estyniadau o hyn ymlaen.
  • Pellter gwahanu o 500 metr, o leiaf, a hwnnw’n bellter ‘absoliwt’ pe ceid unrhyw waith glo brig i'r dyfodol. Yr unig newid y dylid gallu ei wneud i’r 500m fyddai ei gynyddu, heb unrhyw gafeat i’w leihau.
  • Dylai’r 500m gynnwys pob cartref, hyd yn oed 1-9 annedd (nad ydynt, ar hyn o bryd, wedi eu gwarchod o gwbl gan y pellter cyfredol o 350m). Ar hyn o bryd, nid yw’r pentrefannau gwledig hyn na'r dinasyddion sy'n byw mewn anheddau anghysbell yn cael statws a gwarchodaeth gyfartal.
  • Roedd yr ymgynghoriadau cyhoeddus a gynhaliwyd ar ôl rhyddhau’r M TAN Glo drafft yn dangos bod y cyhoedd o blaid 500m, a byddai hynny, mewn gwirionedd, â rhagdybiaeth yn erbyn pe câi ei weithredu.
  • Gan fod pobl Cymru yn byw ar y glo ac yn agos ato, dylid peidio ag annog mwy o waith glo brig gan fod astudiaethau amgylcheddol, iechyd a chymdeithasol yn datgan ei fod yn anaddas fel datblygiad cynaliadwy, derbyniol neu hyd yn oed iach ar gyfer y dyfodol.

Statws y ddeiseb: Wedi cau ar 27 Ionawr 2009

Linc i drawsgrifiad y cyfarfod ar 27 Ionawr 2009

Linc i'r Adroddiad Cwblhad ar gyfer P-03-061 (PDF, 51KB) (Atodiadau yn Saesneg yn unig)

Ystyried gan y Pwyllgor Deisebau:

  • 20 Medi 2007

Linc i drawsgrifiad y cyfarfod ar 20 Medi 2007

  • 24 Ebrill 2008

Linc i drawsgrifiad y cyfarfod ar 24 Ebrill 2008

  • 20 Tachwedd 2008

Linc i drawsgrifiad y cyfarfod ar 20 Tachwedd 2008