P-03-062 - Angen dybryd am glustogfa 500 Metr

Derbyniwyd y ddeiseb: 12 Gorffennaf 2007

Prif ddeisebydd: Vivienne Hadley

Nifer y deisebwyr: 4,514

Geiriad y ddeiseb:

I ddiogelu: 1) iechyd ein plant 2) ein cartrefi a'n hysgolion 3) ein hamgylchedd rhag llygredd a pheryglon cloddio glo brig. Ydych chi'n cofio'r llygredd oedd yn cael ei ryddhau yn Aberddawan? Mae'r rheini ohonom sydd wedi llofnodi'r ddeiseb hon yn gofyn gyda pharch i Weinidogion Cymru sicrhau bod gennym ni, bobl Cymru, yr un hawliau â phobl eraill y DU, a hynny drwy sicrhau bod clustogfa 500m rhwng ein cartrefi a'n hysgolion ac unrhyw safle cloddio glo brig. Rydym yn pryderu'n fawr y bydd y clustogfeydd hanfodol hyn yn cael eu cwtogi i ddim ond 350 metr, sy'n gwbl annigonol yn ein barn ni. O gyflwyno mesur o’r fath a lleoli diwydiant trwm mor agos atom, byddai’n diystyru'i effaith ar ein safon byw a'n hiechyd. Mae'n ddyletswydd ar y Gweinidogion i amddiffyn pobl Cymru. Rydym yn credu bod gennym hawl naturiol i gael CLUSTOGFA 500 metr o amgylch safle glo brig ac y byddai unrhyw berson teg sy'n deall y sefyllfa'n cytuno â hyn. Dylid cyflwyno clustogfa 500 metr yn ddi-oed i osgoi unrhyw amwysedd, i'n hamddiffyn ni ac i ddiogelu dyfodol ein plant. NID YDYM YN GOFYN AM DDIM MWY NA CHYFIAWNDER GAN EIN CYNULLIAD CENEDLAETHOL

Statws y ddeiseb: Wedi cau ar 17 Ionawr 2008

Linc I drawsgrifiad y cyfarfod ar 17 Ionawr 2008

Rydych chi yma :

  1. Hafan
  2. Cymryd rhan
  3. Deisebau

Partneriaid a Help