Cynulliad Cenedlaethol Cymru

P-03-072 - Mesur Gofalwyr Ifanc (Adnabod a Chymorth)

Derbyniwyd y ddeiseb: 12 Medi 2007

Prif ddeisebydd: Mr Barry W Cooper

Nifer y deisebwyr: 1

Geiriad y ddeiseb:

Dros y blynyddoedd diwethaf mae Clybiau Rotari ar draws Cymru wedi dod yn ymwybodol o’r diffyg cydnabyddiaeth a chymorth sy’n cael ei roi i blant a phobl ifanc sy’n gofalu am eraill gartref, ar draul eu haddysg a’u bywyd cymdeithasol arferol eu hunain.  Mae eu hiechyd yn dioddef a’u rhagolygon fel oedolion yn y dyfodol yn cael eu difetha. Nid yw Gofalwyr Ifanc yn gofyn llawer – maent yn anfodlon tynnu sylw atynt eu hunain rhag ofn chwalu’r teulu ac felly’n aros yn gudd o fewn cymdeithas.  Nid yw’r sector statudol yn casglu ystadegau ond mae’r sector gwirfoddol yn amcangyfrif y gall fod tua 30,000 o Ofalwyr Ifanc yng Nghymru nad ydynt yn cael y gofal a’r sylw y credwn eu bod yn ei haeddu.  Felly mae’r Clybiau Rotari wedi cymryd y rôl o fod yn Eiriolwyr drostynt.  

Yr ydym ni, y cynrychiolwyr sydd wedi arwyddo isod, yn deisebu Cynulliad Cenedlaethol Cymru i roi cyfrifoldeb penodol ar awdurdodau lleol i Adnabod ac i roi Cymorth i Ofalwyr Ifanc:  awgrymwn mai’r ffordd orau o wneud hyn fyddai cynnwys pennod arbennig ar y pwnc ym Mesur arfaethedig y Cynulliad ar Fynd i’r afael â Thlodi Plant a Helpu Plant sy’n Agored i Niwed.

Wrth gwrs, gellid dadlau y bydd Gofalwyr Ifanc yn cael eu cynnwys yn y Mesur newydd beth bynnag gan fod llawer ohonynt, ond nid pob un, yn dioddef o dlodi ariannol, gyda rhai yn gorfod cardota neu ddwyn er mwyn bwydo brodyr neu chwiorydd sy’n cael eu hesgeuluso oherwydd dibyniaeth rhiant.  Yn sicr maent i gyd yn dioddef o dlodi cymdeithasol.  Gellid dadlau y bydd pob Gofalwr Ifanc yn cael ei gynnwys yn y diffiniad hwn beth bynnag gan fod pob un ohonynt yn agored i niwed ac angen cymorth a chefnogaeth.  

Fodd bynnag byddem yn dadlau bod Gofalwyr Ifanc yn achos arbennig a  gwahanol, gydag anghenion arbennig a gwahanol nad ydynt yn cael sylw gan y sector statudol ar hyn o bryd.  Nid ydym am iddynt barhau i gael eu hanwybyddu mewn deddfwriaeth yn y dyfodol a chredwn eu bod yn haeddu pennod arbennig eu hunain yn y Mesur newydd, yn nodi anghenion penodol er mwyn adnabod a rhoi cymorth i Ofalwyr Ifanc.

Statws y ddeiseb: Wedi cau ar 8 Rhagfyr 2009

Linc i drawsgrifiad y cyfarfod ar 8 Rhagfyr 2009

Ystyried gan y Pwyllgor Deisebau:

  • 4 Hydref 2007

Linc i drawsgrifiad y cyfarfod ar 4 Hydref 2007

  • 22 Tachwedd 2007

Linc i drawsgrifiad y cyfarfod ar 22 Tachwedd 2007

  • 6 Rhagfyr 2007

Linc i drawsgrifiad y cyfarfod ar 6 Rhagfyr 2007

  • 6 Mawrth 2008

Linc i drawsgrifiad y cyfarfod ar 6 Mawrth 2008

  • 17 Mawrth 2009

Linc i drawsgrifiad y cyfarfod ar 17 Mawrth 2009

  • 5 Mai 2009

Linc i drawsgrifiad y cyfarfod ar 5 Mai 2009