Cynulliad Cenedlaethol Cymru

P-03-077 - SUSTRANS: Galw ar Lwydoraeth Cynulliad Cymru i ddatblygu, cynnal a chadw rhwydwaith o lwybrau di-draffig a rennir

Derbyniwyd y deiseb: 17 Hydref 2007

Prif Deisebwyr: Lee Waters

Nifer y Deisbebwyr: 14

Geiriad y ddeiseb:

Rydym ni, sydd wedi llofnodi isod, yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i ofyn am bwerau i roi dyletswydd ar Lywodraeth Cynulliad Cymru i ddatblygu, cynnal a chadw rhwydwaith o lwybrau di-draffig i’w rhannu gan gerddwyr, seiclwyr a phobl anabl ar hyd a lled Cymru, yn unol â’r hyn sydd wedi’i osod allan yn y Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol arfaethedig sydd ynghlwm.  

Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol Arfaethedig ynghylch Llwybrau Cerdded a Seiclo

Gwybodaeth cyn y balot: Y Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol Arfaethedig Amlinell

ol

Diwygio Maes 10 (priffyrdd a thrafnidiaeth) yn Rhan 1 o Atodlen 5 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 fel a ganlyn:

Ar ôl Maes 10 : priffyrdd a thrafnidiaeth, ychwanegu “ darpariaethau’n ymwneud â phriffyrdd a rhannau eraill i’w defnyddio gan seiclwyr a cherddwyr yn unig, neu i’w rhannu ganddynt, neu i’w gwneud hi’n haws i seiclwyr a cherddwyr ddefnyddio priffyrdd”.

Statws y ddeiseb: Wedi cau ar 31 Ionawr 2008

Linc i drawsgrifiad y cyfarfod ar 31 Ionawr 2008