P-03-080 - Ddidymiad o'r Offeryn Stadudol yn perthnasu i'r Ysgol Hen a Ty, Caergeiliog
Derbyniwyd y deiseb: 01 Tachwedd 2007
Prif deisebwyr: Mr H G Parry
Nifer y deisebwyr: 10
Geiriad y ddeiseb:
Ar ôl pedair blynedd ar bymtheg o ymchwiliadau trwyadl y gallaf yn awr eu cadarnhau â dogfennau cynhwysfawr, hoffwn ofyn i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ofyn i Lywodraeth Cynulliad Cymru ddirymu penderfyniad y Swyddfa Gymreig i ganiatáu Rheol Sefydlog yn 1989 yn rhoi hawl i Ymddiriedolaeth Esgobaethol Bangor gael gwared ar eiddo a elwir yr hen Ysgol a’r Ysgoldy, Caergeiliog. Mae’r cais yn seiliedig ar dystiolaeth y gallaf ei chyflwyno’n ymwneud â pherchnogaeth yr eiddo.
Os oes angen i chi weld y wybodaeth hon, mae croeso i chi gysylltu â mi i drefnu cyfarfod. Yn y cyfamser, rwy’n amgáu deg llofnod gan gynnwys manylion cysylltu’r rheini sy’n barod i gefnogi fy neiseb.
Statws y ddeiseb: Ar agor
Ystyried gan y Pwyllgor Deisebau:
Linc i drawsgrifiad y cyfarfod ar 31 Ionawr 2008
Linc i drawsgrifiad y cyfarfod ar 6 Mawrth 2008
Linc i drawsgrifiad y cyfarfod ar 8 Mai 2008