P-03-081 - Diwygio Rheoliadau Grantiau a Benthyciadau Dysgu’r Cynulliad: Rheoliadau’n ymwneud ag Astudiaethau Blaenorol
Derbyniwyd y ddeiseb: 06 Tachwedd 2007
Prif ddeisebydd: Mr Deri Burgess
Nifer y deisebwyr: 16
Geiriad y ddeiseb:
Cefndir:Ar hyn o bryd, mae’r Rheoliadau Cymorth i Fyfyrwyr yn gwahardd myfyrwyr hyn sydd â gradd eisoes, rhag gwneud cais am fenthyciad myfyrwyr ar gyfer costau byw. Fodd bynnag, mae myfyrwyr sy’n astudio am radd sydd, yn y pen draw, yn arwain at gymhwyster fel meddyg, deintydd, milfeddyg, pensaer, pensaer tirwedd, dylunydd tirwedd, rheolwr tirwedd, cynllunydd tref neu gynllunydd gwlad a thref, wedi’u heithrio o’r rheol hon.
Does dim modd i unrhyw fyfyriwr hyn gael benthyciad myfyrwyr i dalu ffioedd.
Rydym ni, sydd wedi llofnodi isod, yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i ychwanegu at y galwedigaethau sydd wedi’u heithrio, a restrir uchod, er mwyn cynnwys unrhyw gwrs gradd i israddedigion sy’n rhagofyniad cyfreithiol, gorfodol i gymhwyso neu gofrestru mewn galwedigaeth benodol. Dyma rai enghreifftiau o gyrsiau o’r fath:
BSc/Op i gofrestru fel Optometrydd
MPharmacy i gofrestru fel Fferyllydd
Rydym yn annog Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gryf i weithredu’r newidiadau hyn fel mater o flaenoriaeth, gan sicrhau bod y newidiadau’n ôl-weithredol os yw hynny’n bosibl.
Y cymhelliant y tu ôl i’r ddeiseb hon yw sicrhau nad yw myfyrwyr hyn, yn enwedig y rheini o gefndiroedd llai cefnog, yn cael eu cau allan o alwedigaethau nad ydynt wedi’u cynnwys yn y rheoliadau presennol; galwedigaethau nad oes unrhyw ffordd arall o gofrestru â nhw.
Yn ogystal â hyn, gofynnwn i Gynulliad Cenedlaethol Cymru roi ystyriaeth ddyledus i’r posibilrwydd o gynnig benthyciadau myfyrwyr i dalu rhan o’r ffioedd ar gyfer cymwysterau o’r fath.
Statws y ddeiseb: Ar gau
Ystyried gan y Pwyllgor Deisebau:
6 Rhagfyr 2007
Linc i drawsgrifiad y cyfarfod ar 6 Rhagfyr 2007
10 Ebrill 2008
Linc i drawsgrifiad y cyfarfod ar 10 Ebrill 2008
22 Mai 2008
Linc i drawsgrifiad y cyfarfod ar 22 Mai 2008
2 Hydref 2008
Linc i drawsgrifiad y cyfarfod ar 2 Hydref 2008
27 Ionawr 2009
Linc i drawsgrifiad y cyfarfod ar 27 Ionawr 2009
31 Mawrth 2009
Linc i drawsgrifiad y cyfarfod ar 31 Mawrth 2009
5 Mai 2009
Linc i drawsgrifiad y cyfarfod ar 5 Mai 2009
7 Gorffennaf 2009
Linc i drawsgrifiad y cyfarfod ar 7 Gorffennaf 2009
27 Ebrill 2010
Linc i drawsgrifiad y cyfarfod ar 27 Ebrill 2010
13 Gorfennaf 2010
Linc i drawsgrifiad y cyfarfod ar 13 Gorffennaf 2010
28 September 2010
Cytunodd y Pwyllgor i:
Ail-edrych ar y ddeiseb ar ôl cyhoeddi Adolygiad Browne ar ariannu addysg uwch.
Linc i drawsgrifiad y cyfarfod ar 28 Medi 2010
16 Tachwedd 2010
Cytunodd y Pwyllgor i:
ysgrifennu at y Gweinidog dros Blant, Addysg a Dysgu Gydol Oes i ofyn am fanylion am y gwaith y bwriedir ei wneud mewn perthynas â rheoliadau benthyciadau i fyfyrwyr yn absenoldeb cyfeiriadau eglur yn adolygiad Browne.
dychwelyd at y ddeiseb wedi i Lywodraeth Cymru gyhoeddi’i hymateb i adolygiad Brown
Linc i drawsgrifiad y cyfarfod ar 16 Tachwedd 2010
11 Ionawr 2011
Cytunodd y Pwyllgor i:
gau’r ddeiseb a pharatoi adroddiad cryno.
