P-03-101 - Cynllun gwastraff rhanbarthol drafft Gogledd Cymru
Derbyniwyd y ddeiseb: 29 Ionawr 2008
Prif ddeisebydd: Sam Rex
Nifer y deisebwyr: 61
Geiriad y ddeiseb:
'Rydym ni gynrychiolwyr TCC, sydd wedi arwyddo isod, yn gofyn i Lywodraeth Cynulliad Cymru:
- Gydnabod bod yr ymgynghoriad ar Adolygiad Cyntaf Cynllun Gwastraff Rhanbarthol Gogledd Cymru yn ddiffygiol o ran y broses a’r cynnwys (e.e. y diffyg ystyriaeth a roddwyd i leihau gwastraff), fel yr eglurwyd yn ymateb ffurfiol TCC i’r ymgynghoriad, ac felly ni ellir ei ystyried yn gynrychioladol o farn pobl Gogledd Cymru.
- Ymestyn y cyfnod ymgynghori er mwyn i’r cyhoedd, y cynghorwyr a’r grwpiau eraill sydd â diddordeb ddatblygu ymatebion a ystyriwyd i’r Cynlluniau.
- Sicrhau bod hawliau pobl Gogledd Cymru’n cael eu diogelu o dan y system gynllunio ffurfiol, fel nad yw Ceisiadau Cynllunio ar gyfer cyfleusterau gwastraff yn cael eu cymeradwyo drwy ddefnyddio’r weithdrefn Tystysgrif Cyfreithlondeb (CLOPUD).
- Ddatblygu canllawiau arfer gorau ar gyfer gweithdrefnau ymgynghori i’w defnyddio gan bob cwmni sy’n cael ei gomisiynu i gynnal ymarferion ymgynghori gan Lywodraeth Cynulliad Cymru.
Statws y ddeiseb: Wedi cau ar 11 Mehefin 2008
Linc i drawsgrifiad y cyfarfod ar 11 Mehefin 2008