Cynulliad Cenedlaethol Cymru

P-03-106 - 'Pride in Barry'

Derbyniwyd y Deiseb: 28 Chwefror 2008

Prif Deisebwyr: Paul Haley

Nifer y Deisebwyr: 213

Geiriad y ddeiseb:

Rydym ni sydd wedi arwyddo isod, sef arweinwyr busnes a chymuned tref y Barri, yn datgan y dylai Rhaglen Adfywio ardal y Barri Fwyaf gael sicrwydd a pharhad cyllid priodol, digonol ac amserol am y 10 mlynedd nesaf er mwyn parhau i fuddsoddi ar gyfer y dyfodol a pharhau â’r gwaith da a’r gwelliannau a wnaed hyd yma. Cynulliad Cenedlaethol Cymru yw buddiolwr cyllid o werthiant tir ar lan y dwr yn y Barri, oddeutu £60miliwn a chredwn y dylai ymrwymo i ail-fuddsoddi cyfran fawr o’r arian hwnnw yn y Barri.

Mae’r deisebwyr felly yn gofyn i Gynulliad Cenedlaethol Cymru alluogi cymuned y Barri i gymryd perchnogaeth o’i dyfodol, drwy ei rhyddhau o natur cylchdröol cystadlaethau ansicr sy’n cael eu hysgogi’n ganolog a’u noddi gan grantiau ac nad ydynt yn rhoi atebion lleol i broblemau lleol, a galluogi ateb ymrwymiad ariannu hirdymor sy’n gymesur â’r arian sydd i’w dderbyn gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru o werthiant y tir ar lan y dwr yn y Barri.

Statws y ddeiseb: Ar agor

Ystyried gan y Pwyllgor Deisebau:

  • 10 Ebrill 2008

Linc i drawsgrifiad y cyfarfod ar 10 Ebrill 2008

  • 24 Ebrill 2008

Linc i drawsgrifiad y cyfarfod ar 24 Ebrill 2008

  • 25 Mehefin 2008

Linc i drawsgrifiad y cyfarfod ar 25 Mehefin 2008