P-03-136 - Parcio yn y Mynydd Bychan a Birchgrove
Derbyniwyd y ddeiseb: 23 Ebrill 2008
Prif ddeisebydd: Ron Page
Nifer y deisebwyr: 500+
Geiriad y ddeiseb:
Gofynnwn i Lywodraeth Cynulliad Cymru:
1. Gynghori Ymddiriedolaeth GIG Caerdydd a’r Fro i
Ddarparu digon o le parcio ar y safle ar gyfer staff ac ymwelwyr trwy gael ardaloedd addas ar gyfer parcio i’r ysbyty ar y safle ac ar dir fel yr ardal ddiffaith i’r gogledd o’r rhandiroedd gyferbyn ag Ysbyty’r Mynydd Bychan ar yr ochr arall i Eastern Avenue,
Datganoli rhai o’r gwasanaethau sydd eisoes ar safle’r Mynydd Bychan a
Pheidio â gwerthu tir ysbytai yng Nghaerdydd a’r ardal gyfagos ar gyfer tai.
2. Argymell bod Cyngor Sir Caerdydd yn
Gwrthod caniatâd cynllunio ar gyfer datblygu pellach ar safle Ysbyty’r Mynydd Bychan oni bai bod uned yn cael ei symud o’r safle, a fydd â’r un effaith ar draffig
Peidio â chefnogi datblygiadau amlfeddiannaeth yn yr ardal a
Chyflwyno system parcio am gyfnod cyfyngedig yn y strydoedd sydd o fewn pellter cerdded i Ysbyty’r Mynydd Bychan
3. Ystyried o fewn y Cynulliad, cyflwyno system a fyddai’n caniatáu i grwpiau lleol apelio i’r Cynulliad pan fydd y cyngor yn rhoi caniatâd cynllunio ar gyfer datblygiad y mae’r trigolion yn ystyried a fydd yn gwaethygu’r broblem barcio yn yr ardal.
Statws y ddeiseb: Ar agor
Ystyried gan y Pwyllgor Deisebau:
22 Mai 2008
Linc i drawsgrifiad y cyfarfod ar 22 Mai 2008
9 Gorffennaf 2008
Linc i drawsgrifiad y cyfarfod ar 9 Gorffennaf 2008
2 Hydref 2008
Linc i drawsgrifiad y cyfarfod ar 2 Hydref 2008
6 Tachwedd 2008
Linc i drawsgrifiad y cyfarfod ar 6 Tachwedd 2008
13 Ionawr 2009
Linc i drawsgrifiad y cyfarfod ar 13 Ionawr 2009
27 Ionawr 2009
Linc i drawsgrifiad y cyfarfod ar 27 Ionawr 2009
17 Mawrth 2009
Linc i drawsgrifiad y cyfarfod ar 17 Mawrth 2009
8 Rhagfyr 2009
Linc i drawsgrifiad y cyfarfod ar 8 Rhagfyr 2009
23 Mawrth 2010
Linc i drawsgrifiad y cyfarfod ar 23 Mawrth 2010
13 Gorffennaf 2010
Linc i drawsgrifiad y cyfarfod ar 13 Gorffennaf 2010
16 Tachwedd 2010
Cytunodd y Pwyllgor i:
Wahodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro i roi tystiolaeth i’r Pwyllgor ar weithredu’r cynllun teithio cynaliadwy. Cytunwyd hefyd i ofyn i’r Bwrdd Iechyd ddarparu manylion, cyn y sesiwn dystiolaeth, am y wybodaeth am barcio a roddir i gleifion cyn apwyntiadau, a gwybodaeth am effaith cynllun parcio a theithio Dwyrain Caerdydd.
Linc i drawsgrifiad y cyfarfod ar 16 Tachwedd 2010
11 Ionawr 2011
Cytunodd y Pwyllgor i:
gael cyngor cyfreithiol ynghylch galw ar Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro i gyflwyno tystiolaeth; ac
ysgrifennu at y bwrdd iechyd i ailadrodd dymuniad y Pwyllgor i glywed tystiolaeth ganddo.
Linc i drawsgrifiad y cyfarfod ar 11 Ionawr 2011
25 Ionawr 2011
Cytunodd y Pwyllgor i:
ofyn am ymateb gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro.
Linc i drawsgrifiad y cyfarfod ar 25 Ionawr 2011
08 Chwefror 2011
Cytunodd y Pwyllgor i:
ysgrifennu at Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro i ofyn iddo ymateb yn ysgrifenedig i’r materion roedd y Pwyllgor yn dymuno eu trafod yn y dystiolaeth lafar.
Linc i drawsgrifiad y cyfarfod ar 08 Chwefror 2011
01 Mawrth 2011
Cytunodd y Pwyllgor i:
Ysgrifennu at y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i ofyn am ei barn ynghylch pa mor gryf yw Cynllun Trafnidiaeth Cynaliadwy Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro a pha gamau mae’r Llywodraeth yn eu cymryd i fonitro’r cynllun.
Linc i drawsgrifiad y cyfarfod ar 01 Mawrth 2011
29 Mawrth 2011
Cytunodd y Pwyllgor i:
Gynghori’r pwyllgor a fydd yn gyfrifol yn y Pedwerydd Cynulliad i ailedrych ar y ddeiseb hon fel blaenoriaeth.
Ysgrifennu at y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i gyfleu siom y Pwyllgor ynghylch diffyg ymgysylltiad Ymddiriedolaeth GIG Caerdydd a’r Fro.
