P-03-143 - Ysgol Penmaes (gwasanaethau bws gwledig)
Derbyniwyd y Ddeiseb
: 28 Mai 2008Prif Ddeisebydd: Catherine Lewis
Nifer y Deisebwyr: 15
Geiriad y ddeiseb:
Rydym ni, y rhai sydd wedi llofnodi isod, yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cynulliad Cymru i fuddsoddi mewn cysylltiadau trafnidiaeth gwell mewn ardaloedd gwledig, fel Powys.
Statws y ddeiseb: Ar agor
Ystyried gan y Pwyllgor Deisebau:
23 Gorffennaf 2008
Linc i drawsgrifiad y cyfarfod ar 23 Gorffennaf 2008
20 Hydref 2008
Linc i drawsgrifiad y cyfarfod ar 20 Hydref 2008
31 Mawrth 2009
Linc i drawsgrifiad y cyfarfod ar 31 Mawrth 2009
29 Mehefin 2010
Linc i drawsgrifiad y cyfarfod ar 29 Mehefin 2010
16 Tachwedd 2010
Cytunodd y Pwyllgor i:
Ysgrifennu at y Dirprwy Brif Weinidog:
i amlygu’r pryderon a godwyd gan TRACC am y fformiwla a ddefnyddir i gyfrifo cyllid ar gyfer y Grant Gwasanaethau Trafnidiaeth Lleol;
i ofyn sut y penderfynir ar y fformiwla;
a yw’r adolygiad o gymorth ariannol i’r diwydiant bysiau’n mynd i’r afael â’r materion a godwyd gan TRACC; a pha bryd y bydd canlyniadau’r adolygiad yn wybyddus.
Linc i drawsgrifiad y cyfarfod ar 16 Tachwedd 2010
25 Ionawr 2011
Cytunodd y Pwyllgor i:
ysgrifennu at y Dirprwy Brif Weinidog i ofyn iddo hysbysu’r Pwyllgor ynghylch y penderfyniad ar ddyfodol cymorthdaliadau bysiau.
Linc i drawsgrifiad y cyfarfod ar 25 Ionawr 2011
29 Mawrth 2011
Cytunodd y Pwyllgor i:
Gynghori’r Pwyllgor a fydd yn gyfrifol yn y Pedwerydd Cynulliad i ystyried ymateb Llywodraeth Cymru ar yr opsiynau ar gyfer cefnogi gwasanaethau bysiau gwledig.
