Cynulliad Cenedlaethol Cymru

P-03-065 - Taliadau Deintyddol y GIG

Derbyniwyd y deiseb: 19 Gorffennaf 2007

Y prif deisebwyr: Mrs R M Swan, Grwp Sefydliad y Merched Hafren

Nifer y deisebwyr: 1

Geiriad y ddeiseb:

Rydym ni, sy’n aelodau o Grwp Sefydliad y Merched Hafren ac sydd wedi llofnodi’r ddeiseb hon, yn siomedig iawn â graddfa bresennol taliadau deintyddol y GIG, yn enwedig y gwahaniaeth mawr rhwng cost y tri band triniaeth, yn arbennig rhwng band 2 sy’n costio £39 a band 3 sy’n costio £177.

Ni ellir cyfiawnhau bwlch mor fawr rhwng prisiau’r ddau fand uchaf. Rhaid bod modd cael ystod o brisiau canolradd ar gyfer yr holl wahanol driniaethau a ddarperir.

O gofio hyn, teimlwn yn gryf y dylid adolygu graddfa bresennol taliadau deintyddol y GIG a gofynnwn i chi ddwyn y mater i sylw’r Cynulliad Cenedlaethol ar ein rhan.

Statws y ddeiseb: Ar agor

Ystyried gan y Pwyllgor Deisebau:

  • 20 Medi 2007

Linc i drawsgrifiad y cyfarfod ar 20 Medi 2007

  • 8 Tachwedd 2007

Linc i drawsgrifiad y cyfarfod ar 8 Tachwedd 2007