P-03-067 - Tir y ‘Miners’ Welfare’, Ty-Du, Nelson
Derbyniwyd y ddeiseb: 11 Gorffennaf 2007
Y prif ddeisebydd: Mrs P Lapsa
Nifer y deisebwyr: 1692
Geiriad y ddeiseb:
Rydym ni, sydd wedi llofnodi’r ddeiseb hon ac sy’n byw ym mhentref Nelson, yn gwrthwynebu’n gryf unrhyw ddatblygiad ar y safle uchod gan yr Adran Menter, Arloesi a Rhwydweithiau. Cafodd Awdurdod Datblygu Cymru’r safle 7.5 erw gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili a oedd wedi’i brynu ar ran yr Awdurdod oddi wrth yr ymddiriedolwyr, heb yn wybod i’r cyn-lowyr lleol, am bris chwerthinllyd o isel. Nid cyn-lowyr oedd yr ymddiriedolwyr hyn ond cyn-gynghorwyr dosbarth lleol.
Mae’r tir hwn bellach yn eiddo i Lywodraeth Cynulliad Cymru a gofynnwn iddi ddychwelyd tir y ‘Welfare’, sydd bellach yn ardal wledig agored sy’n llawn harddwch naturiol, coed hynafol, coetir, gwrychoedd a bywyd gwyllt amrywiol, i eiddo trigolion y pentref i’w ddefnyddio gennym ni a chenedlaethau i ddod. Dyna oedd bwriad y glowyr lleol pan fu iddynt brynu’r tir hwn a thalu amdano. Rydym eisoes wedi cyflwyno deiseb i Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili’n galw arno i hepgor y tir o’i Gynllun Datblygu Lleol.
Statws y ddeiseb: Ar agor
Ystyried gan y Pwyllgor Deisebau:
Linc i drawsgrifiad y cyfarfod ar 20 Medi 2007
Linc i drawsgrifiad y cyfarfod ar 21 Chwefror 2008
Linc i drawsgrifiad y cyfarfod ar 6 Mawrth 2008
Linc i drawsgrifiad y cyfarfod ar 10 Ebrill 2008
Linc i drawsgrifiad y cyfarfod ar 2 Hydref 2008