Cynulliad Cenedlaethol Cymru

P-03-068 - Arbed Ein Golygfa: Deiseb Gwastadeddau'r Rhyl

Derbyniwyd y ddeiseb: 14 Awst 2007

Prif ddeisebydd: Mrs Janet Howarth

Nifer y deisebwyr: 10

Geiriad y ddeiseb:

Mae’r rheini ohonom sydd wedi llofnodi isod, sy’n cynrychioli cymuned busnes Twristiaeth a Phreswylwyr Llandudno, Llandrillo-yn-Rhos a Bae Colwyn, yn gofyn bod y Cynulliad Cenedlaethol, fel mater o gryn brys, yn ceisio ffyrdd o atal gweithrediadau Npower yn Constable Point a’r cyffiniau ger Rhos-Point, lle y maent yn bwriadu lleoli Fferm Wynt ar y Môr (4-5 milltir o’r lan) a chynnal ymchwiliad llawn i weithredoedd Npower ynghylch eu rhan ym mhrosiect Fferm Wynt ‘Gwastadeddau’r Rhyl’.

Bu camsyniad mawr yn ein barn ni o ran cynllunio, a hynny ar sail y penderfyniad i ganiatáu trwydded i adeiladu’r fferm wynt hon.

Caniatawyd trwydded gynllunio i COWL ym mis Tachwedd 2002 ar frys, a gwerthwyd y drwydded dan sylw i Npower yn ddiweddarach.

Canlyniad hyn oedd na chafodd digon o amser ei neilltuo i ystyried effaith bosibl prosiect Fferm Wynt Gwastadeddau’r Rhyl, er enghraifft;

1. Y difrod i’r amgylchedd morol;

2. Yr effaith andwyol ar fusnes twristiaeth Gogledd Cymru a fydd yn arwain at ddirywiad economaidd a’r canlyniadau cymdeithasol drud sy’n dilyn y fath ddirywiad;

3. Diwydiannu ardal o harddwch naturiol sydd wedi’i rhestru fel ardal Cadwraeth Arbennig – Arfordir Treftadaeth.

Caniatawyd y drwydded gan yr Adran Masnach a Diwydiant, ond pwysleisiwn mai’r Cynulliad Cenedlaethol ddylai fod yn gyfrifol am y mater hwn, a hynny o dan y pwerau ychwanegol a roddwyd iddo’n ddiweddar.

Dylai’r Cynulliad ofyn am bwerau rheoli cynllunio ar gyfer pob datblygiad Fferm Wynt, sy’n cynnwys ffermydd gwynt ar y tir ac ar y môr, a hynny er mwyn sicrhau bod gan bobl Cymru reolaeth dros ddatblygiadau sy’n effeithio ar eu cymunedau.

Cynulliad Cenedlaethol Cymru fyddai wedi bod yn gyfrifol am ganiatáu trwydded o dan Adran 5 o Ddeddf Diogelu Bwyd a’r Amgylchedd 1985 sy’n ymwneud â’r prosiect hwn, a gofynnwn a fyddai trwydded o’r fath wedi’i chaniatáu pe byddai’r Cynulliad wedi bod yn llwyr ymwybodol o effaith ddinistriol bosibl y prosiect hwn.

Ar hyn o bryd, mae Npower yn gadael tunelli o ddeunydd gwastraff o lechi ar y ‘Constable Bank’, sydd wedi’i leoli ger Rhiwledyn ym Mae Llandudno.

Enwyd y Constable Bank gan y Peirianwyr Fictoraidd a adeiladodd ein hamddiffynfeydd môr gwreiddiol pan gynlluniwyd Llandudno, sef un o’r trefi glan y môr mwyaf trawiadol, am y tro cyntaf. Dewiswyd yr enw gan mai ei ystyr yw gwarchodwr, gwarcheidwad, rhywun sy’n diogelu. Mae’r glan enfawr naturiol hwn o dywod a cherrig mân yn diogelu cymunedau Llandudno, Llandrillo-yn-Rhos a Bae Colwyn o’r gwaethaf o’n llanwau uchel tymhorol.

Ers 2002, mae ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o’r risg o lifogydd wedi cynyddu. Mae pobl yn deall mwy am effaith ymyrryd ag amddiffynfeydd naturiol erbyn hyn a gallwn annog y Cynulliad Cenedlaethol i adolygu’r risg o lifogydd fel mater brys.

Gofynnwn i Gynulliad Cenedlaethol Cymru geisio ffyrdd o atal unrhyw ddifrod pellach i Constable Bank. Credwn nad yw tystiolaeth y datblygwyr o ran effeithiau amgylcheddol, economaidd a chymdeithasol posibl eu cynlluniau yn ddigon i dawelu meddwl y gymuned leol hon.

Credwn y dylai Cynulliad Cenedlaethol Cymru ddefnyddio’r “Egwyddor Ragofalus” ac fel mater brys, ceisio atal unrhyw ddifrod pellach i Constable Bank.

Yn y cyfamser, dylid atal y gweithgareddau ger Rhos Point a Bae Llandudno tan bo’r Cynulliad wedi cwblhau ei ymchwiliadau.

Statws y ddeiseb: Wedi cau ar 2 Hydref 2008

Linc i'r Adroddiad Cwblhad ar gyfer P-03-068 9PDF, 579KB) (Atodiadau yn Saesneg yn unig)

Ystyried gan y Pwyllgor Deisebau:

  • 20 Medi 2007

Linc i drawsgrifiad y cyfarfod ar 20 Medi 2007

  • 21 Chwefror 2008

Linc i drawsgrifiad y cyfarfod ar 21 Chwefror 2008

  • 6 Mawrth 2008

Linc i drawsgrifiad y cyfarfod ar 6 Mawrth 2008

  • 11 Mehefin 2008

Linc i drawsgrifiad y cyfarfod ar 11 Mehefin 2008

  • 9 Gorffennaf 2008

Linc i drawsgrifiad y cyfarfod ar 9 Gorffennaf 2008

  • 2 Hydref 2008

Linc i drawsgrifiad y cyfarfod ar 2 Hydref 2008