Cynulliad Cenedlaethol Cymru

P-03-071 - Ysgol Gyfun Garth Olwg: Deiseb yn erbyn newid enw’r Ysgol

Derbyniwyd y deiseb: 28 Awst 2007

Y prif deisebwyr: Mr P Griffiths

Nifer y deisebwyr: 10

Geiriad y ddeiseb:

Yn unol â chanllawiau Llywodraeth Cynulliad Cymru i hyrwyddo democratiaeth rydym yn cyflwyno “deiseb” i gwyno am y ffaith bod Cyngor Bwrdeistref Rhondda Cynon Taf wedi penderfynu newid enw’r ysgol.

Gwaethpwyd hyn yn erbyn ewyllys rhieni, disgyblion, staff a llywodraethwyr yr ysgol.

Mae’r deg enw isod ond yn gynrychiolaeth fechan o’r llu o bobl a fu’n protestio.

Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn ymwybodol o’r sefyllfa, gan ein bod wedi bod yn brwydro am ryw ddeunaw mis i ddwy flynedd bellach.

Manteisiwn ar y cyfle hwn i ddefynddio’r gyfundrefn newydd hon i leisio barn a chwyn.

Statws y ddeiseb: Wedi cau ar 17 Ionawr 2008

Linc I drawsgrifiad y cyfarfod ar 17 Ionawr 2008