P-03-088 - Gwasanaethau bws gwledig yn Nhaliesin
Derbyniwyd y ddeiseb: 13 November 2007
Prif ddeisebydd: Ms P C Henderson
Nifer y deisebwyr: 27
Geiriad y ddeiseb:
‘Yr ydym ni sydd wedi arwyddo isod, yn pryderu am newid yn yr hinsawdd ac yn awyddus i leihau ein hallyriadau carbon. Yn anffodus, mae’r gwasanaethau bws sy’n cysylltu’n pentref ni (Tre Taliesin) â’n trefi lleol sef Aberystwyth a Machynlleth yn anaml ac yn ddrud ac mae hyn yn gwneud cymudo â char bron â bod yn orfodol.
Yr ydym yn annog y Cynulliad Cenedlaethol i fuddsoddi mewn gwasanaethau bws fforddiadwy a mwy rheolaidd yng nghefn gwlad Cymru, oherwydd credwn mai diffyg system drafnidiaeth gyhoeddus integredig yw un o’r rhwystrau mwyaf i ddatblygu cymdeithas gynaliadwy yng Nghymru.
Statws y ddeiseb: Wedi cau ar 25 Mehefin 2008
Linc i drawsgrifiad y cyfarfod ar 25 Mehefin 2008