P-03-095 - Deiseb ynghylch ‘drafft Ymgynghori ar Adolygiad Cyntaf Cynllun Gwastraff Rhanbarthol. (Grwp Gwastraff Rhanbarthol De-ddwyrain Cymru)
Derbyniwyd y ddeiseb: 13 Rhagfyr 2007
Prif ddeisebydd: Timothy Maddison
Nifer y deisebwyr: 881
Geiriad y ddeiseb:
Rydym ni drigolion Bwrdeistref Sirol Caerffili, sydd wedi arwyddo isod, yn deisebu Llywodraeth Cynulliad Cymru i wneud trefniadau fel bod ymgynghori priodol â phobl y Fwrdeistref a’u bod yn cael gwybod yn iawn am Gynllun Gwastraff Rhanbarthol De-ddwyrain Cymru (Hydref 2007) trwy:
1. Ymestyn dyddiad cau ymgynghoriad Awdurdod Gwastraff Rhanbarthol De-ddwyrain Cymru i 29 Chwefror 2008 neu nes y bydd ymgynghori priodol wedi bod â phobl y Fwrdeistref .
2. Sicrhau bod cyfarfodydd cyhoeddus ynghylch y Cynllun yn cael eu trefnu yng Ngogledd, De, Dwyrain a Gorllewin Bwrdeistref Caerffili.
3. Sicrhau bod ‘hawliau’ pobl Bwrdeistref Caerffili yn cael eu diogelu o dan y system gynllunio ffurfiol, fel nad yw Ceisiadau Cynllunio ar gyfer cyfleusterau gwastraff yn cael eu cymeradwyo trwy ddefnyddio’r weithdrefn Tystysgrif Cyfreithlondeb (CLOPUD) fel yr awgrymir yn nogfen ddrafft Cynllun Gwastraff Rhanbarthol De-ddwyrain Cymru (mis Hydref 2007).
4. Sicrhau bod Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn darparu ar gyfer dyrannu safleoedd ar gyfer cyfleusterau rheoli gwastraff yn ei Gynllun Datblygu Lleol.
5. Sicrhau bod Awdurdod Gwastraff Rhanbarthol De-ddwyrain Cymru’n atal cyfleusterau gwastraff o bob parc busnes neu barc diwydiannol o fewn Bwrdeistref Sirol Caerffili, yn wyneb y swn, yr arogleuon, yr effaith ar draffig a’r perygl ymddangosiadol i iechyd sy’n gysylltiedig â hwy.
Statws y ddeiseb: Wedi cau ar 11 Mehefin 2008
Linc i drawsgrifiad y cyfarfod ar 11 Mehefin 2008
