Cynulliad Cenedlaethol Cymru

P-03-079 - Deiseb i ddiwygio’r Ddeddf yn ymwneud â dyletswyddau cyfreithiol Comisiynydd Plant Cymru

Derbyniwyd y ddeiseb: 23 Hydref 2007

Prif ddeisebydd: Mr G E Davies

Nifer y deisebwyr: 10

Geiriad y ddeiseb:

At Gynulliad Cenedlaethol Cymru

O dan Ddeddf Safonau Gofal 2000, Deddf Comisiynydd Plant 2001, Rheoliadau Comisiynydd Plant Cymru 2001 ac adran 77 o Ddeddf Safonau Gofal 2000, rydym ni sydd wedi llofnodi isod, sef dinasyddion Cymru sy’n parchu’r gyfraith,  yn gofyn i Lywodraeth Cynulliad Cymru, ystyried y ddeiseb hon fel mater o flaenoriaeth. Mae’r ddeiseb yn cyfeirio at y deddfau amrywiol sy’n cyfyngu ar swyddogaeth y Comisiynydd Plant wrth iddo ymgymryd â’i ddyletswyddau cyfreithiol i ddiogelu plant sy’n cael eu cam-drin ar hyn o bryd gan asiantaethau’r Wladwriaeth gan gynnwys arbenigwyr sy’n cael eu cynorthwyo a’u hannog gan y llysoedd. Gofynnwn i’r ddeddf gael ei diwygio er mwyn i Gomisiynydd Plant Cymru fedru ymchwilio i feysydd lle cafodd yr egwyddor o roi’r brif ystyriaeth i fuddiannau a lles y plentyn ei gamddefnyddio’n eang, gan gynnwys;

  • Plant sy’n cael eu cymryd o’u cartrefi ar sail honiadau ffug nad ymchwiliwyd iddynt.
  • Arbenigwyr sy’n cael defnyddio damcaniaethau arbrofol sydd heb eu profi, gyda chydsyniad y Llys.
  • Gweithwyr cymdeithasol sy’n mynd ati’n fwriadol i gadw defnyddiau neu ffeithiau’n ôl, i’w newid neu i gyflwyno defnyddiau neu ffeithiau anghywir er mwyn sicrhau canlyniadau y maent wedi penderfynu arnynt ymlaen llaw.
  • Llysoedd, newyddiadurwyr y llysoedd ac arbenigwyr annibynnol honedig sy’n cydgynllwynio i sicrhau canlyniadau nad ydynt er lles gorau’r plentyn.
  • Rhagfarn yn erbyn addysg Gymraeg
  • Prinder dulliau annibynnol o wybod a yw plant yn cael eu cam-drin tra maent yn derbyn gofal gan gyrff Gwladol ac a yw’r wybodaeth hon yn cael ei hanwybyddu os caiff ei dwyn i sylw’r Barnwyr.  

Statws y ddeiseb: Wedi cau ar 2 Hydref 2008

Linc i'r Adroddiad Cwblhad ar gyfer P-03-079 (PDF, 649KB) (Atodiadau yn Saesneg yn unig)

Ystyried gan y Pwyllgor eisebau:

  • 21 Chwefror 2008

Linc i drawsgrifiau y cyfarfod ar 21 Chwefror 2008

  • 2 Hydref 2008

Linc i drawsgrifiau y cyfarfod ar 2 Hydref 2008