Deiseb i gadarnhau safonau diogelwch tân cyfredol
Yr ydym ni, sydd wedi llofnodi isod, yn nodi’r cynlluniau newydd parthed rheoli perygl mewn sawl rhan o Gymru. Credwn y gall y cynlluniau hyn arwain at gynnydd mewn perygl mewn sawl cymuned.
Yr ydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog y Lywodraeth y Cynulliad i weithredu er mwyn sicrhau bod safonau diogelwch ddim yn cael eu gostwng.
