Cynnig deiseb
Mae dwy ffordd o gyflwyno deiseb – ar bapur a drwy ddefnyddio’r system e-ddeisebu. Mae’r system e-ddeisebu yn fwy effeithlon ac mae’n bosibl y gall eich helpu i gyrraedd mwy o bobl; fodd bynnag, mae croeso i chi ddefnyddio’r dull sydd fwyaf addas i chi.
Cyflwyno deiseb drwy’r system e-ddeisebu
Os ydych am gynnig e-ddeiseb, dylech ddefnyddio’r ffurflen ar-lein i gyflwyno’ch deiseb, a chaiff ei rhoi’n awtomatig ar ein gwefan wedi iddi gael ei chymeradwyo. Byddwn yn rhoi gwybod i chi pan fydd hyn yn digwydd. Rhaid i ni gael manylion cysylltu’r prif ddeisebwyr i ni fedru gwneud hyn.
Cyflwyno deiseb ar bapur
Mae ffurflen ar-lein ar gyfer cynnig deiseb ar gael i’w lawrlwytho ar ffurf dogfen Word neu ar ffurf dogfen pdf ac mae’n cynnwys canllawiau i’ch helpu i’w llenwi. Gofynnwn i chi ei llenwi a’i hanfon atom cyn i chi ddechrau casglu llofnodion os ydych chi’n bwriadu gwneud hynny ar bapur er mwyn i ni fedru rhoi cyngor i chi ynglyn â gwneud yn siwr y gallwn dderbyn eich deiseb arfaethedig. Mae hi’n anodd iawn newid geiriad deiseb ar ôl casglu’r llofnodion.
Cyn defnyddio’r templed, dylech ddarllen yr amodau a’r telerau perthnasol.
Dyma’r broses e-ddeisebu:
Anfon y ddeiseb arfaethedig atom
Cadarnhau bod y ddeiseb yn cadw at yr amodau a thelerau priodol
Bydd yn methu:
- Os yw’r ddeiseb yn sub judice
- Os nad oes gan y Cynulliad Cenedlaethol y pwerau perthnasol
- Os yw’n cynnwys iaith sarhaus
- Os yw’r un fath â / yn debyg i ddeiseb a gyflwynwyd gan yr un person / corff corfforaethol lai na blwyddyn yn ôl
Os yw’ch deiseb arfaethedig yn methu, byddwn yn dweud wrthych beth y gallwch ei wneud i’w gwneud yn bosibl i ni ei rhoi ar ein gwefan. Os yw’n pasio, bydd yn symud ymlaen i’r cam nesaf
Y ddeiseb yn cael ei rhoi ar y wefan er mwyn i bobl ei llofnodi cyn y dyddiad cau
Y ddeiseb yn cau
Cyn gynted ag y bydd y ddeiseb yn cau, bydd angen penderfynu a yw’n dderbyniadwy ai peidio.
Prawf i weld a yw’r ddeiseb yn dderbyniadwy
Bydd y ddeiseb yn methu:
- Os nad oes digon o lofnodion
- Os yw’r amgylchiadau wedi newid
Os yw’n pasio, bydd yn symud ymlaen i’r cam nesaf
Y Pwyllgor Deisebau’n trafod y ddeiseb
Gallwch weld y broses yn y Pwyllgor Deisebau ar dudalen arweiniad ar ddeisebau.
Cyflwyno deisebau
Gallwch gyflwyno e-ddeiseb drwy ddefnyddio:
- ffurflen ar-lein.
- Dylech anfon y templed a’r ddeiseb i flwch postio’r Pwyllgor Deisebau: petition@wales.gsi.gov.uk; neu
- drwy’r post at
Y Pwyllgor Deisebau
Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Bae Caerdydd
CF99 1NA
Gallwch ffonio’r Pwyllgor Deisebau ar 02920 898998
Diweddarawyd ddiwethaf ym mis Mawrth 2008