Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gyfrifol am ddwyn Llywodraeth Cynulliad Cymru i gyfrif drwy graffu ar ei gwaith ac ar y ffordd y mae’n gwario arian cyhoeddus.
Mae’r Cynulliad Cenedlaethol wedi ymrwymo i ymgysylltu fwyfwy â phobl Cymru. Rydym am i chi wybod sut y mae ein dulliau agored a hygyrch o weithio’n galluogi pobl Cymru i ddylanwadu’n uniongyrchol ar atebolrwydd y llywodraeth.
Un ffordd y gall pobl Cymru wneud yn siwr bod y Cynulliad Cenedlaethol yn gwybod am broblemau sy’n effeithio arnynt yw drwy’r system ddeisebu. Gallwch hefyd wneud yn siwr bod Aelodau’r Cynulliad yn clywed eich barn drwy gyfrannu at ymchwiliadau pwyllgorau eraill; pan fyddwn yn craffu ar ddeddfwriaeth; neu drwy anfon e-bost at Aelodau’n uniongyrchol drwy’r lincs ar ein gwefan.
Gall Cynulliad Cenedlaethol Cymru drafod unrhyw bwnc sy’n effeithio ar Gymru neu ar bobl Cymru; nid oes ganddo unrhyw bwerau, fodd bynnag, yng nghyswllt materion a gadwyd yn ôl gan Lywodraeth y DU.
Ar hyn o bryd, mae gan y Cynulliad Cenedlaethol pwerau sylweddol yn y meysydd polisi a ganlyn:
Rydym yn derbyn deisebau ysgrifenedig, ac yn annog pobl i ddefnyddio’n system e-ddeisebu. Mae’n rhaid ystyried pob deiseb i weld a yw’n dderbyniadwy yn ôl y rheolau sydd wedi’u gosod allan yn Rheolau Sefydlog y Cynulliad Cenedlaethol. Os byddwch chi’n defnyddio’r system e-ddeisebu, bydd angen i chi gyflwyno geiriad y ddeiseb cyn y cewch ei rhoi ar y wefan i bobl ei llofnodi’n electronig.
Os ydych am i ni roi’ch deiseb ar ein gwefan, rhaid iddi gydymffurfio â’n hamodau a'n telerau, a rhaid iddi ofyn i’r Cynulliad Cenedlaethol wneud rhywbeth sydd o fewn ei bwerau. Cysylltwch â Chlerc y Pwyllgor Deisebau i gael cyngor a chymorth mewn perthynas â chwmpas a geiriad eich deiseb.
Ni fyddwn yn gallu derbyn deisebau sy’n cynnwys y canlynol neu sy’n gofyn i’r Cynulliad ystyried y canlyno:
Os penderfynir nad yw deiseb yn dderbyniadwy, bydd Clerc y Pwyllgor yn ysgrifennu at y prif ddeisebwr i egluro pam. Byddwn yn falch o roi cymorth a chyngor i chi i wneud yn siwr bod eich deiseb yn dderbyniadwy, ond mae’n well cael y geiriad yn iawn cyn casglu llofnodion.
Cam 1: yr ysgrifenyddiaeth yn ei hasesu
Ar ôl cyflwyno’r ddeiseb, bydd Clerc y Pwyllgor yn ei hasesu ac yn ystyried y pwnc dan sylw. Mae’n bosibl y bydd yn cysylltu â’r prif ddeisebwr i gael rhagor o wybodaeth gefndir. Ar yr un pryd, gall y tîm deisebau baratoi nodiadau briffio i roi cyd-destun polisi a chyd-destun cyfreithiol. Gan ddibynnu ar gwmpas a natur y pwnc, gall gymryd rhai wythnosau i gasglu’r wybodaeth hon.
Cam 2: y pwyllgor yn ei thrafod
Yna caiff y ddeiseb ei thrafod gan y Pwyllgor Deisebau - pwyllgor penodol sy’n cynnwys Aelodau’r Cynulliad sy’n cynrychioli holl bleidiau gwleidyddol y Cynulliad Cenedlaethol. Bydd y Pwyllgor yn cyfarfod bob pythefnos pan fydd y Cynulliad yn eistedd. Mae’n trafod deisebau newydd ac yn penderfynu sut i fwrw ymlaen â deisebau a gyflwynwyd eisoes.
Bydd deisebau’n cael eu cyflwyno i’r pwyllgor yn y drefn y cânt eu derbyn, oni bai fod rheswm dilys i’w trafod ynghynt.
Dyma’r camau arferol y gall y pwyllgor eu cymryd pan fydd yn trafod deiseb am y tro cyntaf:
Gall y pwyllgor hefyd benderfynu cau’r ddeiseb a pheidio â chymryd unrhyw gamau pellach.
Os gofynnwyd am ragor o wybodaeth, bydd y pwyllgor yn trafod y ddeiseb eto ar ôl cael y wybodaeth honno. Weithiau bydd y pwyllgor yn penderfynu ar y camau i’w cymryd heb ofyn am gyflwyniad llafar na rhagor o wybodaeth ysgrifenedig.
Gall y canlyniadau amrywio, gan ddibynnu ar y camau y bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn penderfynu eu cymryd.
Mae’r system ddeisebu’n ddefnyddiol iawn os ydych am godi proffil mater nad oedd ar yr agenda wleidyddol o’r blaen. Gallai hyn arwain at:
Yn y pen draw, mae hyn yn rhoi cyfle i ddeisebwyr:
Diweddarwyd ddiwethaf fis Ebrill 2008