Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Cyflwyno e-Ddeiseb - Cymorth

Enw'r Prif Ddeisebydd

Nodwch eich enw os gwelwch yn dda. Os yw'r ddeiseb yn cael ei chyflwyno gan grwp neu ar ran grwp, e.e. cyngor cymunedol, nodwch enw cynrychiolydd y grwp a fydd yn berson cyswllt ar gyfer y Pwyllgor.

Geiriad y ddeiseb

Dylai'r ddeiseb nodi'n glir pa gamau yr hoffai'r deisebydd weld y Cynulliad yn eu cymryd. A fyddech cystal a chadw'r geiriad o dan 50 gair os gwelwch yn dda. Mae croeso i chi gynnwys gwybodaeth ychwannegol, ond gwnewch hyn ar wahan o dan 'Manylion Pellach'.

Y camau a gymerwyd i ddatrys y materion cyn cyflwyno'r ddeiseb

Cyn cyflwyno deiseb, mae disgwyl bod y deisebydd wedi gwneud ymdrech i geisio datrys y materion drwy gysylltu a Llywodraeth y Cynulliad neu geisio cymorth cynrychiolydd etholedig megis cynghorydd, AC, neu AS, er enghraifft. Nodwch grynodeb o'r camau a gymerwyd i ddatrys eich pryderon, gan gynnwys enwau'r cynrychiolwyr etholedig yr ydych wedi cysylltu a nhw.

Manylion pellach

Nodwch unrhyw wybodaeth ychwannegol sy'n berthnasol i'ch deiseb, gan gynnwys y rhesymau pam yr ydych yn credu bod angen i'r Cynulliad weithredu. Bydd y wybodaeth yma ar gael i Aelodau'r Pwyllgor cyn i'r Pwyllgor ystyried eich deiseb, a dylid ei gyfyngu i ddwy ochr o bapur A4 ar y mwyaf. Os ydych am ddefnyddio'r system e-ddeisebu, bydd y wybodaeth yma'n cael ei gyhoeddi ar y wefan.