Amodau a Thelerau Deisebau
Rhaid i ddeisebau arfaethedig fodloni rhai amodau sylfaenol.
I gynnig deiseb, defnyddiwch y templed ar-lein i roi:
- teitl neu destun y ddeiseb
- datganiad clir a chryno’n egluro testun y ddeiseb. Dylai nodi pa gamau y mae’r deisebwr am i Gynulliad Cenedlaethol Cymru eu cymryd. Byddwn yn cydweithio â chi i newid geiriad eich deiseb os nad yw ei diben yn ddigon clir.
- enw a chyfeiriad y prif ddeisebwr (rhag ofn y bydd angen cysylltu â chi i drafod y ddeiseb. Ni fydd y manylion hyn yn cael eu rhoi ar y wefan)
- y cyfnod y bydd y ddeiseb i’w gweld ar y wefan (rydym yn argymell rhwng 4 ac 8 wythnos)
Rhaid i’r wybodaeth yn y ddeiseb gael ei chyflwyno mewn ewyllys da. Er mwyn i’r ddeiseb fod yn dderbyniadwy, rhaid i chi beidio â chynnwys:
- datganiadau a allai fod yn enllibus, yn anghywir neu’n ddifenwol
- gwybodaeth a allai fod wedi’i diogelu gan waharddeb neu orchymyn llys
- deunydd a allai fod yn gyfrinachol, yn fasnachol sensitif neu a allai beri gofid personol i eraill neu a allai olygu eu bod ar eu colled
- deunydd sy’n hyrwyddo neu’n rhoi cymeradwyaeth fasnachol i unrhyw gynnyrch, gwasanaeth neu gyhoeddiad
- enwau swyddogion unigolion sy’n gweithio i gyrff cyhoeddus, oni bai eu bod yn uwch reolwyr gyda’r cyrff hynny
- enwau perthnasau cynrychiolwyr etholedig neu swyddogion cyrff cyhoeddus
- enwau unigolion, neu wybodaeth a fyddai’n ei gwneud hi’n bosibl cael hyd i’w henwau, mewn perthynas â chyhuddiadau troseddol
- iaith sarhaus, eithafol neu a all gythruddo eraill. Mae hyn yn cynnwys nid yn unig rhegfeydd a geiriau sarhaus amlwg, ond hefyd unrhyw iaith a allai beri tramgwydd i bobl sy’n ei darllen.
Cadwn yr hawl i wrthod:
- deisebau sy’n debyg i a/neu’n gorgyffwrdd â deiseb a gafodd ei thrafod yn ystod y 12 mis diwethaf
- deisebau sy’n gofyn i’r Cynulliad Cenedlaethol Cymru gymryd camau nad ydynt yn rhan o’i gylch gwaith neu ei bwerau
- datganiadau sydd gyfystyr â hysbysebu
- materion nad yw’n briodol eu cyflwyno ar ffurf deiseb (er enghraifft , gohebiaeth ynghylch mater personol)
- Ceisiadau Rhyddid Gwybodaeth. Nid dyma’r ffordd briodol o wneud cais Rhyddid Gwybodaeth; cewch wybodaeth am y drefn briodol yn yr adran Rhyddid Gwybodaeth.
Os nad yw deiseb yn cadw at y canllawiau hyn, ni allwn ei rhoi ar ein gwefan. Os felly, cewch wybod, drwy lythyr, pam y cafodd eich deiseb ei gwrthod. Cewch ddewis newid ac ailgyflwyno’r ddeiseb er mwyn i ni ei rhoi ar ein gwefan.
Cyn gynted ag y bydd y ddeiseb ar ein gwefan, bydd pawb sy’n gallu defnyddio’r we yn gallu ei llofnodi. Rhaid i bawb sy’n ei llofnodi roi eu henwau, eu cyfeiriad a’u cyfeiriad e-bost. Ni fydd unrhyw fanylion personol, heblaw am enwau’r rheini sy’n llofnodi’r ddeiseb, yn cael eu cyhoeddi ar y wefan. Dim ond at ddibenion sy’n gysylltiedig â’r ddeiseb, a dim arall, y caiff gwybodaeth am unrhyw unigolyn ei defnyddio, oni bai eu bod yn dewis derbyn gwasanaethau eraill a gynigir ar y wefan hon. Gallwch ddarllen mwy am hyn yn ein polisi preifatrwydd.
Bydd eich deiseb i’w gweld ar y wefan tan y dyddiad cau a nodir. Fodd bynnag, os daw’n amlwg yn ystod y cyfnod hwn nad yw’r ddeiseb yn cadw at yr amodau, rydym yn cadw’r hawl i’w thynnu hi oddi ar y wefan. Os bydd hyn yn digwydd, byddwn yn cysylltu â chi’n gyntaf i roi cyfle i chi ddelio â’r materion sy’n peri pryder a dim ond ar ôl i bopeth arall fethu y byddwn yn tynnu’r ddeiseb oddi ar y wefan.
Os hoffech ragor o wybodaeth, ewch i dudalen y broses ddeisebu neu cysylltwch â’r Tîm Deisebau: petition@wales.gsi.gov.uk.