Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Rydym wedi datblygu’r system e-ddeisebu

Ysgrifennwyd: 24 Hydref 2008

Ers i ni lansio cam cyntaf ein system e-ddesisebu ym mis Ebrill 2008, rydym wedi bod yn datblygu’r system er mwyn hwyluso’r broses o gyflwyno ac arwyddo deisebau.

Beth sydd wedi newid?

Mae'r system newydd yn gofyn i’r rhai sydd am arwyddo deiseb gofrestru ar y wefan gan roi enw a chyfeiriadau post ac e-bost, cyn iddynt allu arwyddo a chyflwyno deisebau. Wedi i ddefnyddwyr gofrestru ac agor eu cyfrifon, byddant yn gallu arwyddo unrhyw ddeiseb gydag un clic.

Gan nad oes modd ateb pob deiseb yn syml drwy ei derbyn neu ei gwrthod, bydd y system newydd yn caniatáu i chi drafod cynnwys deiseb ar ein fforwm.

Byddwn yn anfon e-bost i bawb sydd wedi arwyddo deiseb yn eu hysbysu o hynt y ddeiseb, felly bydd modd i chi wybod pryd y bydd yn cael ei drafod gan Bwyllgor Deisebau’r Cynulliad, a gallwch weld y drafodaeth ar Senedd.tv.

Pam ddylwn i gofrestru ar y wefan?

Yr un manylion sydd eu hangen wrth gofrestru ar y wefan ag oedd eu hangen wrth arwyddo deisebau yn y system flaenorol. Yr unig beth sydd ei angen arnoch yw cyfeiriad e-bost cyfredol er mwyn derbyn yr e-bost a fydd yn agor eich cyfrif. Cyn gynted ag eich bod wedi agor eich cyfrif, byddwch yn gallu cyflwyno ac arwyddo deisebau, cyfrannu at fforymau trafod, tanysgrifio ar gyfer e-bost hysbysu’r Cynulliad a chylchlythyr y Cynulliad. Unwaith y byddwch wedi agor eich cyfrif, gallwch arwyddo unrhyw ddeiseb drwy un clic.

Beth os nad oes gen i gyfeiriad e-bost?

Gallwch arwyddo deiseb drwy anfon eich enw, cyfeiriad a’ch cod post i ni drwy’r ffurflen gyswllt. Nodwch deitl y ddeiseb yr hoffech ei arwyddo’n glir ar y ffurflen.

Beth fydd y Cynulliad yn ei wneud gyda fy manylion personol?

Rydym yn cydymffurfio gyda Deddf Diogelu Data 1998. I wybod mwy, darllenwch ein polisi preifatrwydd.

Cynnig deiseb
Llofnodi deiseb
Y Pwyllgor Deisebau