Etholiadau a refferenda
Yn 2011, cynhaliwyd refferendwm ar bwerau deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru, a chynhaliwyd etholiad y Cynulliad hefyd. Canfyddwch fwy yma am etholiadau a refferenda.
Refferendwm 2011
Yn dilyn pleidlais gadarnhaol yn y refferendwm, gall y Cynulliad, bellach, basio deddfau ar bob pwnc yn yr 20 maes datganoledig heb orfod cael caniatâd yn gyntaf gan Senedd y DU. Canfyddwch fwy am y refferendwm a’r hyn mae’n ei olygu i’r Cynulliad ac i bobl Cymru.
Etholiad y Cynulliad 2011
Ar 5 Mai 2011, pleidleisiodd dinasyddion Cymru ar bwy roeddynt am eu cael i’w cynrychioli fel Aelodau’r Cynulliad. Canfyddwch fwy o wybodaeth am yr etholiad yn yr adran hon.
Pleidleisiwch 2011
Er mwyn hyrwyddo’r tri chyfle oedd gan bobl Cymru i bleidleisio yn 2011, cynhaliodd y Cynulliad ymgyrch arloesol ar-lein. Y bwriad oedd hysbysu pobl Cymru am y cyfloed pleidleisio oedd ganddynt, a’u hannog i ddweud eu dweud yn y ffordd y caiff y wlad ei rhedeg. Canfyddwch fwy am ymgyrch Pleidleisiwch 2011.
Cyhoeddiadau
Darllenwch a llwythwch gyhoeddiadau’r Cynulliad, gan gynnwys gwybodaeth mewn ieithoedd eraill.
