Digwyddiadau
Mae’r tîm digwyddiadau’n ceisio
codi ymwybyddiaeth o Gynulliad Cenedlaethol Cymru ac annog pobl i gyfrannu. Mae’r tîm yn cynghori ac yn trefnu digwyddiadau, cynadleddau a seminarau yn y Senedd ym Mae Caerdydd yn ogystal â threfnu digwyddiadau ledled Cymru sy’n rhoi cyfle i bobl ddysgu mwy am y Cynulliad a chanfod sut y gallant wneud gwahaniaeth.
Rydym yn trefnu amrywiaeth eang o ddigwyddiadau gan gynnwys arddangosfeydd yn y Senedd; lansio ymchwiliadau ac adroddiadau pwyllgor; cynadleddau i amrywiaeth o grwpiau buddiant pwysig; digwyddiadau rhyngweithiol i blant ac oedolion mewn Eisteddfodau a’r Sioe Frenhinol; a pharatoadau ar gyfer ymweliadau o bwys.
Yn 2009-10 bydd y tîm yn gyfrifol am y rhaglen o ddigwyddiadau sy’n cyd-fynd â dengmlwyddiant datganoli gyda’r nod o ailgynnau diddordeb pobl yn y broses ddemocrataidd.
Rydym yn gyfrifol am gynghori ynghylch sut i drefnu digwyddiadau ar holl ystad y Cynulliad, sy’n cynnwys y Senedd, y Pierhead a Thy Hywel, yn ogystal â chynghori a chynorthwyo cydweithwyr i drefnu digwyddiadau a gynhelir ledled Cymru.
Rydym yn gweithio’n agos hefyd gydag Aelodau’r Cynulliad sy’n noddi pob digwyddiad a gynhelir ar ystad y Cynulliad, gan roi gwybod iddynt sut i drefnu pethau’n llwyddiannus.
Rydym yn datblygu’n calendr digwyddiadau’n barhaol, a chroesawn unrhyw awgrymiadau sydd gennych am ddigwyddiadau unrhyw le yng Nghymru.
Os hoffech fod yn bresennol yn unrhyw un o ddigwyddiadau’r Cynulliad, neu i gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â’r tîm isod:
Cynnal Digwyddiad neu Arddangosfa yn y Senedd
Oriel Digwyddiadau
Cwrdd â’r tîm!
I drefnu digwyddiad yn y Senedd, cysylltwch â:
Miranda Parker, Rheolwr Digwyddiadau a Desg Gymorth y Senedd
(029 20 821855)
Tracey Probert, Cydgysylltydd Digwyddiadau a Desg Gymorth y Senedd
(029 20 821936)
Os hoffech chi fynychu digwyddiad yn y Senedd neu am fwy o wybodaeth cysylltwch â:
Delyth Lewis, Rheolydd Digwyddiadau
(029 20 828550)
Geraint Huxtable, Rheolwr Digwyddiadau'r Senedd
(029 20 828201)
Lloyd Bowen, Swyddog Digwyddidau
(029 20 828540)
Alice Randone, Swyddog Digwyddidau
(029 20 828084)