Cynnal digwyddiad neu arddangosfa yn y Cynulliad

Rhaid i bob cais i gynnal digwyddiad neu arddangosfa yn y Cynulliad gael ei noddi gan Aelod Cynulliad. Dylai unrhyw wahoddiadau ar gyfer y digwyddiad/arddangosfa gael eu cyhoeddi dan enw’r Aelod Cynulliad sy’n cefnogi, a rhaid iddo hefyd fod yn bresennol yn y digwyddiad/arddangosfa.



Unwaith i chi sicrhau cefnogaeth gan Aelod Cynulliad, rhaid i chi ffonio’r llinell archebu ar 0845 010 5500 a bydd staff yn eich helpu i lenwi ffurflen archebu digwyddiad.

Wedi i’ch cais gael ei ystyried byddwn yn cysylltu â chi a byddwch yn cael gwybod a yw wedi bod yn llwyddiannus ai peidio.

Bydd holl drefnwyr digwyddiadau/arddangosfeydd a gymeradwywyd yn derbyn cadarnhad o ddyddiad, amser, lleoliad a’r swyddog a fydd yn gyfrifol am drefnu eu digwyddiad, ynghyd â phecyn digwyddiadau yn cynnwys canllawiau, telerau ac amodau a gwybodaeth i westeion.

Yna gwahoddir trefnwyr i ymweld â’r safle er mwyn trafod a chadarnhau logisteg, cynllun yr ystafell, a rhaglen y digwyddiad. Gofynnir i drefnwyr ddod â chopi o’r telerau ac amodau wedi’i lofnodi i’r cyfarfod hwn.

Ar ddiwrnod y digwyddiad/arddangosfa, bydd aelod o staff yn cyfarfod â'r trefnyddion yn y Senedd i sicrhau bod sylw’n cael ei roi i’w holl anghenion.

Dylai pobl sy’n trefnu digwyddiadau yn y Senedd amser cinio neu am 5.30pm ar ddydd Mawrth a Mercher drefnu na fydd areithiau’n cael eu cyflwyno ar ôl 1.30pm na chyn 6.00pm.

Os oes gennych unrhyw ymholiadau, neu os ydych am ymweld ag ystâd y Cynulliad cyn y digwyddiad/arddangosfa, cysylltwch â’r llinell archebu digwyddiadau ar 0845 010 5500.

Rydych chi yma :

  1. Hafan
  2. Cymryd rhan
  3. Digwyddiadau
  4. Cynnal digwyddiadau yn y Cynulliad

Partneriaid a Help