Mynd i gyfarfod Pwyllgor
Mae croeso i chi eistedd yn yr oriel gyhoeddus i edrych ar Gyfarfod Pwyllgor. Mae cyfleusterau ar gael i bobl sydd ag anableddau
Ar ddyddiau busnes, caiff cyfarfodydd Pwyllgor eu cynnal ar fore dydd Mawrth a dydd Mercher, a thrwy’r dydd ar ddydd Iau. Cynhelir y cyfarfodydd yn y Senedd ym Mae Caerdydd neu mewn lleoliadau eraill ledled Cymru. Mae yna nifer o bwyllgorau sy’n ymdrin ag amrywiaeth o bynciau. Mae gwybodaeth fanwl am ddyddiadau, lleoliadau, agendâu, papurau a chofnodion ar gael yn yr adran ar Bwyllgorau ar y wefan.
Os ydych yn awyddus i fynd i gyfarfod Pwyllgor, gallwch archebu sedd wythnos ymlaen llaw. Mae 27 o seddi ar gael yn oriel gyhoeddus pob ystafell bwyllgora yn y Senedd fel arfer, ac mae lle ar gyfer cadeiriau olwyn. Er mai’r cyngor arferol yw archebu seddi ymlaen llaw rhag cael eich siomi, nid yw hyn yn angenrheidiol bob amser ac efallai y bydd seddi ar gael ar y diwrnod - holwch wrth y ddesg wybodaeth yn nerbynfa’r Senedd.
O ganlyniad i'r galw mawr am seddi mewn rhai cyfarfodydd Pwyllgor, cyfyngir archebion grwp ar gyfer Cyfarfodydd Pwyllgor i 10 er mwyn sicrhau bod pawb yn cael yr un cyfle. Caiff y seddi eu cadw am 15 munud wedi i’r cyfarfod ddechrau, ac yna cânt eu cynnig i bobl ar y rhestr aros. Os ydych yn gwybod y byddwch yn hwyr yn cyrraedd, rhowch wybod am hyn pan fyddwch yn archebu fel y gellir cadw’r seddi nes y byddwch yn cyrraedd.
Gallwch ddarganfod beth a drafodir yn y cyfarfodydd Pwyllgor drwy edrych ar yr adran ar Bwyllgorau ar y wefan hon. Bydd copïau o’r agenda ar gael wrth y ddesg wybodaeth. Gellir cael rhagor o wybodaeth drwy ffonio’r Llinell Wybodaeth ar y rhif 0845 010 5500. Caiff y wybodaeth ei harddangos ar sgriniau plasma a phod gwybodaeth yn y Senedd hefyd.
Ceir cofnod o drafodion y Cyfarfodydd Pwyllgor blaenorol yng Nghofnod y Trafodion
Archebu Seddi
Gall y cyhoedd archebu seddi wythnos ymlaen llaw. Awgrymwn eich bod yn gwneud hynny i sicrhau bod lle ar eich cyfer: I archebu sedd dylech:
- ffonio’r Llinell Archebu ar 0845 010 5500 (ffôn testun: 0845 010 5678)
- anfon e-bost i: archebu@cymru.gov.uk
- llenwi'r ffurflen archebu electronig
- ysgrifennu i: Gwasanaeth Archebu’r Cynulliad, Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Canolfan Ymwelwyr y Gogledd, Parc y Tywysog, Rhodfa’r Tywysog, Bae Colwyn , Conwy, LL29 8PL.