Gwasanaeth Addysgol Peripatetig
Mae’r Cynulliad yn cynnig gwasanaeth addysgol peripatetig drwy ysgolion a cholegau yng Ngogledd Cymru, Canolbarth a Gorllewin Cymru a De Cymru sy’n cynnwys cyflwyniad a gweithdy. Gellir trefnu cyflwyniadau hefyd cyn ymweliadau addysgol i Siambr Hywel
Os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch, neu os hoffech neilltuo lle, ffoniwch y llinell archebu ar 0845 010 5500. Dylai'r manylion a ganlyn fod gennych wrth archebu:
- enw’r ysgol neu’r coleg;
- dyddiad yr ymweliad;
- amser yr ymweliad;
- enw a chyfeiriad y trefnydd;
- amcan /rhesymau dros yr ymweliad;
- yr ymweliad i’w gynnal yn Gymraeg neu'n Saesneg;
- anghenion arbennig;
- nifer yn y grwp a’r ystod oedran (os yn berthnasol);
- nifer yr oedolion cyfrifol (os yn berthnasol);
Gwybodaeth bwysig i’w chofio wrth drefnu ymweliadau addysgol:
- cofiwch nodi a oes gan unrhyw aelod o’ch grwp anghenion mynediad wrth drefnu'r ymweliad;
- rhaid cadarnhau pob archeb bythefnos cyn yr ymweliad. Ar ôl i ni dderbyn eich manylion, anfonir llythyr cadarnhau atoch;
- rhaid rhoi o leiaf 10 diwrnod o rybudd os ydych am ganslo ymweliad;
- dylai trefnwyr yr ymweliad sicrhau bod y gymhareb rhwng staff a disgyblion yn y grwp sy’n ymweld yn cydymffurfio â chanllawiau’r Awdurdod Lleol.