Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Rhaglenni Addysg Cynulliad Cenedlaethol Cymru Amserlen ar gyfer ymweliadau â’r Cynulliad 2009-2010

Mae’r Cynulliad yn cynnig 3 ymweliad addysgol y dydd ar ddiwrnodau busnes yn unig, sef dydd Mawrth, dydd Mercher a dydd Iau.

10:00 – 12:00     11:00 – 13:00     13:00 – 14:30 (13:00 – 15:00 dydd Iau)

Dewiswch o’r canlynol:

Ymweliadau Addysgol

Ymweliad 2 awr sy’n cynnwys dadl yn Siambr Hywel,, gweithgaredd a thaith i’r Senedd. CA2, CA3, CA4, 16+, grwpiau gwleidyddiaeth, colegau, grwpiau Bagloriaeth Cymru. (48 o ddisgyblion ar y mwyaf)

Ymweliadau Cynghorau Ysgol

Ymweliad arbennig i gynghorau ysgol sy’n cynnwys:

y cyfle i gynnal cyfarfod cyngor ysgol yn Siambr Hywel,, gweithgaredd a thaith i’r Senedd.  Dydd Mawrth a Mercher yn unig gan gynnwys tocynnau i’r Cyfarfod Llawn os ydynt yn dymuno.

Ymweliadau Cyfarfod Llawn

Ymweliad awr a hanner sy’n cynnwys trafodaeth yn Siambr Hywel a thocynnau i’r Cyfarfod Llawn. Prynhawn Dydd Mawrth a Mercher yn unig ar gyfer grwpiau16+.(30 o ddisgyblion ar y mwyaf)

Gwybodaeth Bwysig:

Gwahoddir eich Aelodau Cynulliad lleol i gyfarfod â chi yn ystod eich ymweliad.

Rydym yn croesawu ysgolion arbennig a grwpiau ieuenctid eraill.

Ardal fwyta cinio ar gyfer ymweliadau’r bore.

Gallwch drefnu bod swyddog addysg yn ymweld â’ch ysgol neu goleg cyn neu ar ôl yr ymweliad.Cymhorthdal tuag at gostau teithio i’r Senedd ar gyfer ysgolion cymwys.

I archebu ymweliad neu am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Llinell Wybodaeth ac Archebu: 0845 010 5500

Testun: 0845 010 5678

E-bost (cyffredinol): gwybodaeth@cymru.gsi.gov.uk

Gwefan: www.cynulliadcymru.org

Rhaglenni Addysg Cynulliad Cenedlaethol CymruAmserlen ar gyfer ymweliadau â’r Cynulliad 2009-2010