Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Mynd i Gyfarfod Llawn

Mae croeso cynnes i chi eistedd yn yr oriel gyhoeddus i wylio'r Cyfarfod Llawn yn y  Siambr. Mae cyfleusterau ar gael i bobl ag anableddau.

Mae'r 60 Aelod Cynulliad yn cyfarfod mewn Cyfarfod Llawn yn y Siambr ar brynhawn dydd Mawrth a ddydd Mercher rhwng 1.30pm a 6pm. Fel rheol mae 120 o seddi ar gael yn yr oriel gyhoeddus, ynghyd â lle i 12 cadair olwyn a gellir eu harchebu hyd at dair wythnos ymlaen llaw. Er ein bod yn eich cynghori i archebu sedd ymlaen llaw rhag cael eich siomi, nid oes raid i chi wneud hynny. Mae'n bosibl y bydd seddi ar gael ar ddiwrnod y cyfarfod. Gofynnwch i'r staff wrth y ddesg wybodaeth yn nerbynfa’r Senedd.

Gan fod galw mawr am seddi yn y Siambr, ni all grwpiau archebu mwy na 15 sedd ar gyfer Cyfarfod Llawn, a hynny er mwyn rhoi cyfle i gymaint o bobl â phosibl ddod i'r cyfarfodydd. Cedwir y seddi am 15 munud ar ôl i’r cyfarfod ddechrau, ac yna fe'u rhoddir i bobl ar y rhestr aros. Os ydych yn gwybod y byddwch yn cyrraedd yn hwyr, rhowch wybod pan fyddwch yn archebu sedd er mwyn i ni ei chadw tan i chi gyrraedd.

I weld beth sy'n cael ei drafod yn y Cyfarfod Llawn, ewch i Agenda’r Cyfarfod Llawn. Bydd copïau ar gael ar y ddesg wybodaeth. Cewch ragor o wybodaeth drwy ffonio’r Llinell Wybodaeth ar  0845 010 5500. Ceir gwybodaeth hefyd ar y sgriniau plasma a'r sgriniau gwybodaeth yn y Senedd.

Ceir cofnod o drafodion y Cyfarfodydd Llawn blaenorol yng Nghofnod y Trafodion.

Archebu Seddi

Gall y cyhoedd archebu seddi hyd at dair wythnos ymlaen llaw. Awgrymwn eich bod yn gwneud hynny i sicrhau bod lle ar eich cyfer: I archebu sedd dylech:

  • ffonio’r Llinell Archebu ar 0845 010 5500 (ffôn testun: 0845 010 5678)
  • anfon e-bost i: archebu@cymru.gsi.gov.uk  
  • llenwi'r ffurflen archebu electronig
  • ysgrifennu i: Gwasanaeth Archebu’r Cynulliad, Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Canolfan Ymwelwyr y Gogledd, Parc y Tywysog, Rhodfa’r Tywysog, Bae Colwyn , Conwy, LL29 8PL