Comisiwn y Cynulliad fel Cyflogwr
Cyfle Cyfartal
Fel cyflogwr, rydym wedi ymrwymo i gyfle cyfartal a cheisiwn gyflogi gweithlu amrywiol sy’n adlewyrchu pobl Cymru. Rydym yn hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth drwy gymryd agwedd gytbwys tuag at ddenu ymgeiswyr a’u hasesu’n wrthrychol. Caiff pob cais ei asesu’n deg heb ystyried oed, lliw, anabledd, rhyw, statws priodasol, hil, crefydd neu gred na thueddiadau rhywiol.
Manteision Gweithio i Gomisiwn y Cynulliad
Mae Comisiwn y Cynulliad yn lle cyffrous i weithio gyda pholisïau blaengar ac ymrwymiad i hyfforddi a datblygu. Ar ben eich cyflog sylfaenol, cynigiwn y manteision canlynol:
- Cynllun pensiwn cyflog terfynol
- Bydd gennych hawl i gael 30 diwrnod o wyliau bob blwyddyn pan fyddwch yn dechrau ar eich swydd. Yn ogystal â hynny, bydd gennych hefyd 8 diwrnod o wyliau cyhoeddus a 3 diwrnod braint y flwyddyn
- Lwfansau absenoldeb mamolaeth, tadolaeth a mabwysiadu hael
- Polisïau sy’n ystyriol o deuluoedd yn cynnwys cyfleoedd i gymryd seibiant gyrfa, i weithio oriau hyblyg, i weithio rhan-amser, i weithio gartref ac i rannu swyddi (y cyfan lle mae hynny’n addas ar gyfer y swydd)
- Cyfleoedd i ddatblygu gyrfa, i hyfforddi ac i gael secondiad
- Adolygiad cyflog blynyddol ac ystyriaeth ar gyfer codiad cyflog cynyddrannol blynyddol
Swyddi Gwag