Dweud eich dweud

Pierhead clock

Diben y Cynulliad yw cynrychioli buddiannau pobl Cymru, felly rydym yn annog unigolion a sefydliadau i gymryd rhan. Gallwch wneud hyn mewn nifer o wahanol ffyrdd, fel y rhestrir isod.

Cysylltwch ag Aelod Cynulliad

Os oes gennych broblem sy’n dod o dan gylch gwaith y Cynulliad, gallwch godi’r mater yn uniongyrchol gyda’ch Aelod Cynulliad. Canfyddwch pwy yw eich Aelod Cynulliad yn yr adran hon, a sut i gysylltu ag ef neu sut i gysylltu â hi.

Anfonwch ddeiseb at y Cynulliad

Mae gan y Cynulliad broses o ddeisebu sy’n caniatáu i unigolion ofyn i’r Cynulliad ystyried unrhyw fater y mae gan y Cynulliad bwerau drosto. Canfyddwch fwy am anfon deiseb at y Cynulliad a’r Pwyllgor Deisebau.

Cymerwch ran mewn ymchwiliad pwyllgor

Gall pwyllgorau wahodd unrhyw un i roi gwybodaeth neu gyngor iddynt mewn cysylltiad â’r gwaith maent yn ei wneud. Edrychwch ar restr lawn o ymchwiliadau pwyllgorau’r Cynulliad yn yr adran hon.

Digwyddiadau

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn cynnal nifer o ddigwyddiadau bob blwyddyn i ymgysylltu gwaith y Cynulliad â’r cyhoedd a rhanddeiliaid. Canfyddwch fwy, gan gynnwys sut i gynnal digwyddiad yn y Cynulliad.

Allgymorth yn eich ardal chi

Mae gan y Cynulliad dîm Allgymorth, felly ble bynnag rydych yn byw yng Nghymru, gallwch ganfod mwy am waith y Cynulliad. Canfyddwch fwy am gyflwyniadau, partneriaethau, pwyllgorau sy’n dod i’ch ardal chi a’r bws allgymorth.

Dewch i’n gweld

Mae’r Cynulliad yn agored i bawb o’r cyhoedd ddod ar ymweliad, o’r DU ac o dramor. Gallwch wylio trafodaethau yn y Cyfarfod Llawn a gwrandawiadau pwyllgorau, neu fynd ar daith o amgylch y Senedd a mynd am dro i adeilad y Pierhead.

Rydych chi yma :

  1. Hafan
  2. Cymryd rhan
  3. Dweud eich dweud

Partneriaid a Help