Mynnwch Lais | Fforwm drafod
Neges gan Peter Black AC, Comisiynydd y Cynulliad a’r Dinesydd
Mae’r Cynulliad wedi ymrwymo i ddefnyddio’r dulliau mwyaf modern a chynhwysol sydd ar gael i helpu pobl i ddeall, ymgysylltu a chymryd rhan mewn democratiaeth yng Nghymru. Mae defnyddio technoleg newydd yn cynnig cyfleoedd i gynnwys pobl nad ydynt fel arfer yn cymryd diddordeb yn y Cynulliad.
Mae’r Cynulliad eisiau clywed eich barn ar y materion sy’n bwysig i chi. Bydd fforwm newydd ‘mynnwch lais’ yn rhoi’r cyfle i chi ddweud wrthym beth yw eich barn a rhoi gwybod i ni pa bynciau yr hoffech chi eu trafod – mynnwch lais a gosodwch yr agenda ar gyfer trafodaeth ddigidol.
Cymerwch ran – mynnwch lais!
Sut mae’r fforwm yn gweithio?
Cynulliad Cenedlaethol Cymru yw’r corff democrataidd sy’n cynrychioli Cymru a’i phobl, sy’n creu deddfau dros Gymru ac sy’n dwyn llywodraeth Cymru i gyfrif.
Mynnwch lais!
Y cam cyntaf yw cofrestru eich manylion gyda ni. Bydd cofrestru hefyd yn rhoi’r cyfle i chi gael gwybodaeth gennym ni am unrhyw ddatblygiadau sy’n digwydd yn y Cynulliad – newidiadau i agendâu busnes y Cynulliad, newyddion, a chyhoeddi adroddiadau newydd.
Ar ôl cwblhau’r broses gofrestru, byddwch yn cael eich manylion logio i mewn a gallwch gymryd rhan yn y drafodaeth.
Bydd yr holl sylwadau a anfonir at y fforymau trafod yn cael eu cymedroli ymlaen llaw gan staff Cynulliad Cenedlaethol Cymru, sy’n golygu na fydd y sylwadau’n ymddangos ar unwaith ar y wefan. Cynhelir y gwaith cymedroli rhwng 9am a 5pm rhwng dydd Llun a dydd Gwener (ac eithrio dyddiau Gwyl y Banc).
Os hoffech awgrymu pwnc i’w drafod, anfonwch neges e-bost at efforwm@cymru.gsi.gov.uk a byddwn yn postio pynciau sy’n berthnasol i’n busnes yma.
Nodwch: rhaid i chi
gofrestru eich manylion gyda ni er mwyn
cael y manylion logio mewn.
Bydd yr holl sylwadau sy’n cael eu hanfon at y fforymau trafod
yn cael eu cymedroli ymlaen llaw gan staff Cynulliad Cenedlaethol Cymru, sy’n golygu na fydd y sylwadau’n
ymddangos ar unwaith ar y safle. Cynhelir y gwaith cymedroli rhwng 9am a 5pm o ddydd Llun i ddydd Gwener
(ac eithrio Gwyliau'r Banc).