Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Ymchwiliad Pwyllgor i gael caniatâd tybiedig ar gyfer rhoi organau

Mae’r Pwyllgor Iechyd, Lles a Llywodraeth Leol yn cynnal ymchwiliad i'r posibilrwydd o newid y dull o roi organau’r corff yng Nghymru. Gall rhoi organau fod yn destun sensitif, ac mae’r pwyllgor am ddarganfod barn cymaint o bobl o Gymru â phosibl.

Mae'r pwyllgor yn eich gwahodd i fynegi'ch barn ynghylch rhoi organau. Gallwch fynegi'ch barn fel a ganlyn

  • yn anffurfiol, drwy bleidleisio ar bob un o'r datganiadau isod;
  • drwy gofrestru ar y safle a chymryd rhan yn ein fforwm trafod;
  • drwy ysgrifennu at y pwyllgor drwy e-bost: health.wellbeing.localgovt.comm@wales.gsi.gov.uk; neu drwy'r post: Clerc y Pwyllgor Iechyd, Lles a Llywodraeth Leol, Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Bae Caerdydd, CF99 1NA.

Pleidlais Gyflym - Caniatâd tybiedig ar gyfer rhoi organau

Gallwch bleidleisio ar unrhyw un o'r sylwadau isod. Nodwch mai pôl anffurfiol yw hwn, a allai gael ei ddefnyddio gan y pwyllgor. Bydd yn agored am y bythefnos nesaf, ac mae'n bosibl y byddwn yn cyflwyno cwestiynau newydd ar y pwnc. Nid ydym yn casglu unrhyw wybodaeth bersonol gan y rhai sy'n pleidleisio.

Datganiad 1

Hoffwn i’m horganau gael eu cymryd yn awtomatig pan fyddaf farw i arbed neu wella bywyd rhywun

A oes gennych sylwadau pellach am y pwnc hwn? Cofrestrwch ar y safle a chyfrannwch at ein fforwm trafod.
Ie 81%
Na 19%

Datganiad 2

Hoffwn i’m horganau gael eu defnyddio ar ôl imi farw ond hoffwn roi f’enw ar y gofrestr neu gario cerdyn rhoddwr

A oes gennychi sylwadau pellach am y pwnc hwn? Cofrestrwch ar y safle a chyfrannwch at ein fforwm trafod.
Ie 40%
Na 60%

Datganiad 3

Pan fyddaf farw nid wyf yn dymuno rhoi f’organau

A oes gennych sylwadau pellach am y pwnc hwn? Cofrestrwch ar y safle a chyfrannwch at ein fforwm trafod.
Ie 22%
Na 78%

Datganiad 4

Byddai’n well gennyf adael i’m hanwyliaid benderfynu a ddylai f’organau gael eu rhoi

A oes gennych sylwadau pellach am y pwnc hwn? Cofrestrwch ar y safle a chyfrannwch at ein fforwm trafod.
Ie 37%
Na 63%