Cynulliad Cenedlaethol Cymru fel cyflowgr
Pwrpas Staff y Cynulliad yw cefnogi Cynulliad Cenedlaethol Cymru i sicrhau ei fod yn gweithredu’n llwyddiannus fel corff democrataidd. Mae’n gweithredu dan gyfarwyddyd a chyfeiriad y Llywydd a phedwar Aelod Cynulliad arall sy’n cynrychioli’r pleidiau gwleidyddol eraill. Caiff gweithrediadau o ddydd i ddydd eu dirprwyo i Glerc a Phrif Weithredwr y Cynulliad. Mae hyn yn cynnwys ystod eang o weithgareddau yn cynnwys:
Darparu swyddfeydd, cyfleusterau, cyfarpar a gwybodaeth y mae eu hangen ar Aelodau’r Cynulliad i wneud eu gwaith;
Cefnogi Pwyllgorau’r Cynulliad a’r Cyfarfod Llawn drwy roi cyngor ar weithdrefnau, cyngor cyfreithiol a chyngor arall;
Darparu gwasanaethau cyfieithu, cyfieithu ar y pryd a gwasanaethau cofnodi sy’n sicrhau y gall y Cynulliad weithredu yn Gymraeg a Saesneg;
Darparu gwybodaeth ac addysg am y Cynulliad i’r cyhoedd; a
Darparu gwybodaeth ac addysg i’r cyhoedd am rôl seneddol y Cynulliad a thrwy drefnu ymweliadau â’r Cynulliad ac oddi yno.
Nid gweision sifil yw staff y Cynulliad. Maent yn annibynnol o’r Llywodraeth a gweithredant yn ddiduedd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Swyddi yng Nghomisiwn y Cynulliad
Mae Comisiwn y Cynulliad yn cyflogi oddeutu 300 o staff sy’n gyfrifol am ddarparu gwasanaethau cefnogi i’r 60 Aelod Cynulliad. Rydym yn cyflogi pobl sydd ag ystod eang o ddoniau mewn meysydd fel:
Gweinyddu
Technoleg Gwybodaeth
Gwasanaethau Clercio
Cyfreithiol
Datblygu Polisi Corfforaethol
Gwasanaethau Llyfrgell
Cyfathrebu Allanol
Gwybodaeth i’r Cyhoedd ac Addysg
Rheoli Digwyddiadau
Ymchwil
Rheoli Cyfleusterau
Diogelwch
Gwasanaethau Ariannol
Cyfieithu Saesneg/Cymraeg
Cyfle Cyfartal
Fel cyflogwr, rydym wedi ymrwymo i gyfle cyfartal a cheisiwn gyflogi gweithlu amrywiol sy’n adlewyrchu pobl Cymru. Rydym yn hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth drwy gymryd agwedd gytbwys tuag at ddenu ymgeiswyr a’u hasesu’n wrthrychol. Caiff pob cais ei asesu’n deg heb ystyried oed, lliw, anabledd, rhyw, statws priodasol, hil, crefydd neu gred na thueddiadau rhywiol. 


Manteision Gweithio i'r Cynulliad
Mae'r Cynulliad yn lle cyffrous i weithio gyda pholisïau blaengar ac ymrwymiad i hyfforddi a datblygu. Ar ben eich cyflog sylfaenol, cynigiwn y manteision canlynol:
Cynllun pensiwn cyflog terfynol
Bydd gennych hawl i gael 31 diwrnod o wyliau bob blwyddyn pan fyddwch yn dechrau ar eich swydd. Yn ogystal â hynny, bydd gennych hefyd 8 diwrnod o wyliau cyhoeddus a 3 diwrnod braint y flwyddyn
Lwfansau absenoldeb mamolaeth, tadolaeth a mabwysiadu hael
Polisïau sy’n ystyriol o deuluoedd yn cynnwys cyfleoedd i gymryd seibiant gyrfa, i weithio oriau hyblyg, i weithio rhan-amser, i weithio gartref ac i rannu swyddi (y cyfan lle mae hynny’n addas ar gyfer y swydd)
Cyfleoedd i ddatblygu gyrfa, i hyfforddi ac i gael secondiad
Adolygiad cyflog blynyddol ac ystyriaeth ar gyfer codiad cyflog cynyddrannol blynyddol
