Rhaglen Hyrwyddwyr Amrywiaeth Stonewall ar gyfer Cyflogwyr

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn aelod o Raglen Hyrwyddwyr Amrywiaeth Stonewall ar gyfer Cyflogwyr – sef fforwm arferion da sy’n ymwneud â chyfeiriadedd rhywiol yn y gweithle. Stonewall yw prif sefydliad Prydain ar gyfer sicrhau cydraddoldeb i bobl hoyw, ac rydym yn gweithio gyda Stonewall er mwyn gwella’r amgylchiadau gweithio i’n staff lesbiaidd, hoyw a deurywiol. Rwyf wrth fy modd ein bod yn gwneud hyn gan fy mod am weld gweithle a diwylliant lle gall ein holl weithwyr deimlo’u bod yn cael eu gwerthfawrogi yn ogystal â theimlo y gallant gyflawni eu llawn botensial.
A ninnau’n aelodau o’r Rhaglen Hyrwyddwyr Amrywiaeth, gobeithiaf y byddwn yn anfon neges glir i’n staff lesbiaidd, hoyw a deurywiol, gan roi sicrwydd iddynt ein bod yn gwerthfawrogi eu cyfraniad ac yn parchu eu cyfeiriadedd rhywiol mewn gweithle positif.
Gobeithiaf hefyd y bydd pobl eraill, y tu allan i’n sefydliad, yn gweld ein hymrwymiad cadarn at gydraddoldeb fel rheswm cadarnhaol dros ymwneud â ni. I gael rhagor o wybodaeth am Hyrwyddwyr Amrywiaeth a Stonewall, ewch i’r wefan:
Claire Clancy
Prif Weithredwr a Chlerc Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Rhaglen Hyrwyddwyr Amrywiaeth Stonewall – beth mae hynny’n ei olygu i mi …
Fel dyn hoyw agored, credaf ei bod yn bwysig fod ein sefydliad yn aelod o’r Rhaglen Hyrwyddwyr Amrywiaeth am sawl rheswm. Mae’n rhoi sicrwydd i mi fod ein sefydliad yn cefnogi ac yn grymuso’i staff. Mae bod yn rhan o’r rhaglen hefyd yn anfon neges gadarnhaol i staff lesbiaidd, hoyw a deurywiol, i’r rheini sy’n defnyddio’n gwasanaethau, ac i weithwyr y dyfodol.
Rwy’n falch iawn ein bod wedi ennill statws Hyrwyddwr Amrywiaeth, gan fod hynny’n ein galluogi i rwydweithio a rhannu arferion da gyda chyflogwyr eraill sy’n arwain yn y maes. Mae modd i gyflogwyr rannu gwybodaeth am sut i gefnogi a grymuso’u staff. At hynny, mae cyfleoedd i fod yn rhan o raglenni penodol sy’n rhoi cyfle i staff lesbiaidd, hoyw a deurywiol gyflawni eu potensial, herio’u rhagdybiaethau’u hunain a’u galluogi i ddysgu o safbwyntiau pobl eraill sy’n cymryd rhan.
Rwy’n annog fy nghydweithwyr, pan fydd hynny’n gyfleus, i fwrw golwg ar wefan Stonewall a gweld sut y gall y Rhaglen Hyrwyddwyr Amrywiaeth fod o les i’n gweithle ni.
Craig Stephenson
Pennaeth yr Uned Gorfforaethol
Mynegai Cydraddoldeb yn y Gweithle Stonewall
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn un o blith y 100 cyflogwr hoyw-gyfeillgar gorau yn y DU, yn ôl Mynegai Cydraddoldeb yn y Gweithle Stonewall 2009.
Y Mynegai yw’r ymarfer llinyn mesur cenedlaethol pendant sy’n dangos cyflogwyr gorau Prydain ar gyfer staff lesbiaid, hoyw a deurywiol.
Mae cyflawniad Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn nodedig gan fod cael ei gynnwys yn rhif 73 ar y Mynegai yn ei nodi fel y cyflogwr sydd wedi gwella fwyaf yng Nghymru o ran bod yn lle hoyw-gyfeillgar i weithio ynddo. Roedd hefyd yn yr ail safle o ran y cyflogwr oedd wedi gwella fwyaf yn genedlaethol.
Dywedodd Claire Clancy, Prif Weithredwr a Chlerc y Cynulliad: “Rwy’n hynod o falch bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi gwneud cynnydd mor sylweddol ym Mynegai Cydraddoldeb Stonewall. Mae’n dangos ein bod wedi ymrwymo’n llwyr i ddarparu gweithle lle mae ein staff i gyd yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi a’u cefnogi”.
Dywedodd Liz Morgan, Cyfarwyddwr Stonewall Cymru: “Mae’r ffaith bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi ei gynnwys ymhlith 100 cyflogwr gorau Stonewall yn adlewyrchu ei ymrwymiad i greu awyrgylch gwaith cynhwysol ar gyfer staff lesbiaidd, hoyw a deurywiol.
Cynulliad Cenedlaethol Cymru hefyd yw’r Cyflogwr sydd wedi gwella fwyaf yng Nghymru ym Mynegai Cydraddoldeb yn y Gweithle 2009, sy’n dangos y gwaith caled a’r gwelliannau a wnaed yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Rwy’n gobeithio y bydd sefydliadau eraill yng Nghymru’n dilyn esiampl y Cynulliad o ran gweithio gyda Stonewall Cymru a’r rhaglen Hyrwyddwyr Amrywiaeth.”
Y rhwydwaith staff i bobl lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thrawsrywiol
Mae gennym rwydwaith staff gweithgar iawn i bobl lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thrawsrywiol, a hwnnw’n rhoi cefnogaeth a mentora i aelodau o staff. Mae’n agored i staff sydd wedi datgelu eu cyfeiriadedd rhywiol yn y gweithle a’r rheini sydd heb wneud hynny eto. Mae’r rhwydwaith yn bodoli er mwyn:
Hyrwyddo amgylchedd gweithio diogel, cynhwysol ac amrywiol
Cefnogi staff lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thrawsrywiol
Cynghori Comisiwn Cynulliad Cenedlaethol Cymru ynghylch materion sy’n effeithio ar staff lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thrawsrywiol, ee drwy asesu effaith polisïau
Darparu rhwydwaith cymdeithasol sy’n barod i gynnwys pobl ac yn annog ei aelodau i gyfrannu
Mae rhagor o wybodaeth am y rhwydwaith ar gael gan Craig.Stephenson@wales.gov.uk

