Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi ymrwymo i sicrhau bod ei wefan mor hygyrch â phosibl i bawb sy’n ei defnyddio er mwyn cadw at ei fandad gwasanaeth cyhoeddus a’i rwymedigaethau statudol, fel y cânt eu diffinio yn y Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd. Cafodd y wefan ei datblygu gyda nodweddion arbennig sy’n ei gwneud yn hawdd i bobl sydd â nam ar eu golwg ei defnyddio. Mae’r wefan hefyd yn cydymffurfio â safonau AA.
Cafodd y wefan ei chynllunio i fod mor hawdd ei defnyddio a’i darllen â phosibl. Gall pobl sy’n cael trafferth defnyddio teclyn pwyntio, fel llygoden, ddefnyddio’r bysellau hwylus. Mae’r wefan hon yn defnyddio system Accesskey Llywodraeth y DU. Dyma’r gorchmynion hwylus sydd ar gael ar y bysellfwrdd:
Gan ddibynnu ar y math o borwr sydd gennych, defnyddiwch un o’r canlynol:
(mae’r system hon yn gweithio gyda Netscape 6.)
Dyma’r bysellau hwylus a gaiff eu defnyddio ar y wefan yn unol â safon bysellau hwylus y mae Llywodraeth y DU yn ei chymeradwyo:
S – Hepgor llywio
1 - Hafan
3 – Map o’r safle
4 - Chwilio
6 - Help
8 – Telerau ac Amodau
0 – Manylion Accesskey
Mae’n bosibl newid gosodiadau’ch porwr i’ch helpu i weld y wybodaeth ar y wefan hon. Gallwch newid maint, arddull, a lliw ffont ynghyd â lliw blaendir a chefndir unrhyw wefan sy’n cael ei gweld ar sgrin cyfrifiadur, hyd yn oed os yw awdur y wefan wedi dewis y rhain eisoes. Gallwch hefyd ddewis y lliw a ddefnyddir i nodi’r lincs ar dudalennau ar y we, neu liw arbennig ar gyfer lincs sy’n ymddangos wrth symud y llygoden drostynt.
Mae hyn yn ddefnyddiol i bobl sydd â nam ar eu golwg, gan fod angen ffontiau mwy neu liwiau mwy cyferbyniol ar y bobl hyn yn aml. Mae’n bosibl dewis lliwiau neu ffontiau arbennig ar gyfer Internet Explorer, lliwiau a ffontiau gwreiddiol Windows neu’ch dewisiadau personol.
Dyma ganllawiau ar gyfer defnyddwyr porwyr Internet Explorer neu Netscape i newid maint y testun ac i reoli’r lliwiau ar y sgrin.
Agorwch Porwr Gwe Internet Explorer
Dewiswch 'Tools' o’r ddewislen ar frig y ffenestr
O’r opsiynau sydd ar gael, dewiswch 'Internet options....'
Cliciwch ar y tab 'General'
Cliciwch ar y botwm 'Accessibilty'
I newid maint y ffont, dewiswch y blwch gwirio 'Ignore font sizes specified on Web pages'
I gael gwared ar liwiau cefndir a lliwiau ffont, dewiswch y blwch gwirio 'Ignore colours specified on web pages'
Cliciwch OK (ac eto os oes angen)
Dewiswch 'View' o’r ddewislen ar frig y ffenestr
O’r opsiynau sydd ar gael, dewiswch 'Text size'
Dewiswch faint y testun
Agorwch Porwr Gwe Internet Explorer
Dewiswch ddewislen 'edit' ar frig y ffenestr
O’r opsiynau sydd ar gael, dewiswch 'preferences'
Cliciwch ar 'web content'
Dad-ddewiswch y botwm 'show style sheets'
Ewch yn ôl i'r rhestr o ddewisiadau
Cliciwch ar 'web browser'
Dewiswch 'language/fonts'
Dewiswch faint y ffont
Testun
Dewiswch 'Edit' o’r ddewislen ar frig y ffenestr a dewiswch 'Preferences'
Agorwch y grwp Appearance a chlicio’r categori 'Fonts'
Wrth ymyl 'For the encoding' dylech weld ‘Western’ sy’n dweud wrth y cyfrifiadur pa fath o lythrennau a symbolau i’w defnyddio. Dewiswch ffont maint 18
Wrth ymyl y maes ‘Variable Width Font’ mae cwymplen: dewiswch 'Arial'. Yn y blwch ‘Width Font’ dylech weld 'Courier New'. Dewiswch ffont maint 18.
Os ydych am newid y ffontiau y mae dylunydd y wefan wedi’u defnyddio, dewiswch 'Use my default fonts overriding document specified fonts'
Cliciwch 'OK'
Dewiswch 'Edit' o’r ddewislen ar frig y ffenestr a dewiswch 'preferences'
agorwch y grwp ‘Appearance’ a chlicio’r categori 'Colours'
Dewiswch fotwm lliw i newid lliw’r testun, y cefndir, lincs rydych wedi, neu heb, eu defnyddio.
Os ydych am newid lliw’r ffont y mae dylunydd y wefan wedi’i ddefnyddio, dewiswch 'Always use my colours, overriding document'
Cliciwch 'OK'
Nid yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn cymeradwyo unrhyw borwyr penodol. Rydym wedi ceisio sicrhau ei bod yn bosibl defnyddio cynifer o’r porwyr cyffredin â phosibl.
Mae rhai o’r dogfennau ar ein gwefan ar gael ar fformat PDF yn unig. Nid Cynulliad Cenedlaethol Cymru sy’n creu pob dogfen PDF, ond mae’n rhaid i ni eu cyhoeddi fel rhan o fusnes y Cynulliad. Dogfennau sydd wedi’u trosi o’n gwefannau cynharach yw llawer o’n dogfennau PDF.
Os hoffech gael ffeil ar fformat gwahanol i hwnnw sydd ar gael y wefan ar hyn o bryd, dylech gysylltu â ni. Byddwn yn gwneud ein gorau i’ch helpu.