Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Calendr

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn cynnal cyfarfodydd a digwyddiadau yn y Senedd ac ar hyd a lled Cymru. Gallwch weld beth sydd ymlaen a ble, drwy edrych ar y calendr. Cewch wybodaeth am leoliad y digwyddiad neu’r cyfarfod, amseroedd dechrau a gorffen, a chrynodeb o’r hyn fydd yn digwydd.

Mae’r calendr yn cynnwys lincs sy’n eich arwain at wybodaeth sy’n egluro sut y gallwch drefnu i fod yn bresennol yn y cyfarfod a sut i gyrraedd, ac unrhyw ddogfennau a fydd yn cael eu trafod. Caiff unrhyw ddogfennau’n ymwneud â’r cyfarfod, fel cofnodion neu gofnod y trafodion, eu hychwanegu at y rhestr a byddant yno am dri mis.

Gallwch chwilio am gyfarfodydd a digwyddiadau drwy ddewis dyddiad o’r calendr ar ochr dde’r sgrin. Gallwch ddewis y mis drwy ddefnyddio’r saethau at ben y calendr, a dewis y dyddiad drwy glicio arno. Bydd y canlyniadau ar gyfer y dyddiad hwnnw’n ymddangos yn y ffenestr gyflwyno. Gallwch weld y digwyddiadau sydd wedi’u trefnu yn ystod y 7, 14 neu 28 diwrnod ar ôl y dyddiad yr ydych wedi’i ddewis drwy ddefnyddio’r saethau ar waelod y calendr.

Mae'n bosibl hidlo’r canlyniadau yn ôl y digwyddiad / cyfarfod neu ei leoliad.

Gallwch hefyd chwilio am ddigwyddiad / cyfarfod drwy ddefnyddio geiriau allweddol, lleoliad neu’r math o ddigwyddiad / cyfarfod ydyw. Bydd y system yn chwilio am deitlau, disgrifiadau cryno a manylion llawn yr holl ddigwyddiadau a chyfarfodydd ac yn rhestru’r rheini sy’n cyfateb.

Ewch i'r Calendr