Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Fforwm

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn adolygu gwahanol agweddau ar ei feysydd cyfrifoldeb yn rheolaidd. Caiff hyn ei wneud fel arfer drwy fusnes y Pwyllgorau, ac mae’r wefan hon yn rhoi cyfle i’r cyhoedd gyfrannu at yr adolygiadau hyn drwy gynnal fforymau trafod. Sylwch y bydd angen i chi gofrestru i gyfrannu at y fforymau.

Bydd linc o’r hafan i’r fforymau byw. Bydd cyflwyniad cyffredinol i bob fforwm yn egluro’i bwrpas a’i gylch gwaith. Bydd y pynciau sy’n dal yn cael eu trafod, ac y gallwch ymateb iddynt, wedi’u rhestru ar y dudalen gyflwyno, ac os oes terfyn amser ar y drafodaeth, bydd y dyddiad cau wedi’i nodi. Bydd yn bosibl gweld y sylwadau ar y trafodaethau a ddaeth i ben, ond ni fydd yn bosibl i chi ychwanegu atynt.  

Cymedroli

Bydd yr holl sylwadau sy’n cael eu hanfon at y fforymau trafod yn cael eu cymedroli  ymlaen llaw gan staff Cynulliad Cenedlaethol Cymru, sy’n golygu na fydd y sylwadau’n ymddangos ar unwaith ar y safle. Bydd y gwaith cymedroli’n mynd rhagddo rhwng 9am - 5pm o ddydd Llun i ddydd Gwener (ac eithrio Gwyliau'r Banc).

Os bydd y cymedrolwr yn credu bod unrhyw neges yn torri rheolau ein hamodau a’n telerau, ni chaiff ei chynnwys. Byddwn yn anfon e-bost at y defnyddiwr yn egluro pam fod y neges wedi’i gwrthod.

Iaith

Bydd yr holl fforymau a’r pynciau’n ddwyieithog, a gallwch anfon sylwadau yn Gymraeg neu Saesneg at y safle priodol. Sylwch na chaiff yr ymatebion eu cyfieithu, a bydd y cymedrolwr yn gallu symud unrhyw sylwadau Saesneg oddi ar y safle Cymraeg ac i’r gwrthwyneb.  Bydd cyfanswm yr ymatebion yn cynnwys yr holl ymatebion a gafwyd yn Saesneg ac yn Gymraeg. Mae’n bosibl gweld y sylwadau yn y naill iaith neu’r llall arall drwy ddefnyddio’r tab ar y panel llywio ar y chwith.

Cofrestru

Bydd angen i chi gofrestru a mewngofnodi ar y wefan cyn i chi fedru anfon sylwadau ar unrhyw bwnc. Gallwch wneud hyn drwy ddilyn y lincs ar dudalennau’r fforwm, neu drwy ddewis y linc Fy Manylion ar frig y dudalen. Sylwch na fydd y linc hon yn caniatáu i chi fynd yn ôl i’r fforwm gwreiddiol ar ôl i chi roi’ch manylion.  

Mae’r wefan wedi’i datblygu i fod yn gydnaws â nifer fawr o borwyr a safonau hygyrchedd uchel. Felly, drwy ddewis gweld rhagor o sylwadau ar bwnc, bydd y pwnc yn agor ond byddwch yn dychwelyd i frig y dudalen. Gan hynny, bydd angen i chi sgrolio i lawr i weld y sylwadau llawn.  

Telerau ac Amodau (Rheolau Trafod ar y We)

Wrth gymryd rhan yn ein hymgynghoriadau ar-lein, rydych yn cytuno i’n telerau a’n hamodau. Dyma rai rheolau yr hoffem i chi eu dilyn:

Cofiwch:

  • Fod yn gwrtais wrth anfon eich sylwadau;
  • Anfonwch eich sylwadau yn Gymraeg neu’n Saesneg ar y wefan briodol.

Ni fyddwn yn cyfieithu’r sylwadau, ac mae'n bosib y bydd y cymedrolwr yn symud sylwadau i'r wefan briodol.

Ceisiwch osgoi:

  • Anfon manylion personol (gan gynnwys eich manylion personol chi)
  • Dynwared person arall neu honni ar gam eich bod yn cynrychioli grwp neu sefydliad
  • Rhegi neu wneud sylwadau anweddus
  • Sarhau, bygwth neu bryfocio unrhyw un arall neu unrhyw grwp arall
  • Anfon unrhyw beth a allai dorri’r gyfraith (e.e. torri hawlfraint, honiadau enllibus, dirmyg llys,)
  • Defnyddio’r safle i hysbysebu unrhyw gynnyrch masnachol       

Bydd ein cymedrolwyr yn dileu rhan o neges neu neges gyfan os teimlant ei bod yn torri unrhyw un o’r rheolau hyn, ac efallai y cewch eich atal rhag anfon unrhyw gyfraniadau pellach. Os ydych yn pryderu bod eich neges yn torri’r rheolau neu ei bod yn amhriodol mewn unrhyw ffordd, cysylltwch â ni i gael cyngor.

Byddwn yn gwneud pob ymdrech i ystyried eich sylwadau mor gyflym â phosibl ac os byddwn yn dod ar draws problem, byddwn yn dileu’r neges cyn gynted â phosibl.

Cofiwch hefyd, trwy gymryd rhan:

  • Rydych yn rhoi indemniad i Gynulliad Cenedlaethol Cymru rhag unrhyw golledion, hawliadau, gorchmynion, difrod neu dreuliau a honnwyd gan unrhyw drydydd parti oherwydd eich neges, sy’n deillio o’ch neges neu sydd mewn cysylltiad â’ch neges.
  • Rydych yn rhoi i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ganiatâd rhydd o freindal a chaniatâd di-alw’n-ôl i atgynhyrchu unrhyw ddeunydd yr ydych yn ei anfon.