Cynlluniwyd ac adeiladwyd y wefan ar sail gwybodaeth a gasglwyd drwy ymgynghori ag Aelodau’r Cynulliad, staff Cynulliad Cenedlaethol Cymru a’r cyhoedd. Yn ystod y cyfnod ymgynghori, cyflwynwyd tri chynllun cychwynnol ac ystyriwyd y sylwadau a gasglwyd wrth ddewis y cynllun terfynol. Dyma strwythur y cynllun terfynol:
Mae’r wybodaeth isod yn egluro sut i fanteisio i’r eithaf ar y wefan a sut i fynd o le i le.
I sicrhau bod cynifer o bobl â phosib yn gallu defnyddio’r wefan, gellir ei gweld ar sgriniau 800x600 picsel a mwy. Cewch ragor o wybodaeth am safonau hygyrchedd y wefan yn yr adran hygyrchedd.
Y Panel llywio ar y llaw chwith
Gallwch fynd i brif adrannau’r wefan drwy’r panel llywio ar yr ochr chwith. Wrth i chi fynd o le i le ar y wefan, mae’r adrannau’n ehangu ac mae’r holl opsiynau’n ymddangos. Mae’r is-adrannau wedi’u lliwio i ddangos pa lefel yr ydych arni. Fel arfer, ni fydd mwy na phedair lefel ym mhob adran. Ceir linc i'r hafan ar y panel llywio, a gallwch ddewis defnyddio tudalennau Cymraeg neu Saesneg.
Ceir lincs i rannau eraill y wefan o'r hafan ac ar dudalennau’r rhaglenni. Mae’r lincs hyn i’w gweld yn y pedwar blwch llwyd ar waelod y panel llywio ar yr ochr chwith:
Mae nifer o gyfleusterau rhyngweithiol ar y wefan, fel fforymau trafod a negeseuon i danysgrifwyr ynghylch newidiadau i adrannau penodol. Rhaid tanysgrifio i ddefnyddio’r cyfleusterau hyn, naill ai drwy’r linc gofrestru neu drwy’r linc ‘Fy Manylion’. Mae’r dudalen ‘Fy Manylion’ hefyd yn cynnwys cyfarwyddiadau i ailosod eich cyfrinair neu i newid eich dewisiadau.
Dim ond pan fyddwch wedi logio mewn ar y wefan y bydd y linc ‘logio allan’ yn ymddangos. Drwy glicio ar y linc hon, byddwch yn logio oddi ar y safle, ond ni fydd y dudalen yn cau.
Mae blwch chwilio syml yn y pennyn. Bydd y peiriant chwilio'n edrych drwy’r safle am y geiriau yn y blwch, yn cyflwyno’r canlyniadau ac yn rhoi dewis i chi goethi’r chwilio. Drwy ddefnyddio “ ” gallwch chwilio am yr union gymal yn hytrach nag am unrhyw air yn y blwch.
Mae’r camau hyn yn ymddangos ar frig pob tudalen ac maent yn dangos eich lleoliad ar y wefan. Pan fyddwch yn clicio i symud o’r naill dudalen i’r llall, bydd cam arall yn cael ei ychwanegu at y rhestr. Mae’r camau i’w gweld mewn bar sy’n newid ei liw i ddangos pa adran yr ydych ynddi.
Ar waelod y dudalen ceir troedynnau sy’n darparu gwybodaeth ddefnyddiol am sut i ddefnyddio’r wefan :
Mae’r linc hygyrchedd yn rhoi gwybodaeth am y ffordd y cafodd y wefan ei datblygu gan ystyried y gwahanol borwyr a gaiff eu defnyddio i weld gwybodaeth ar wefannau. Mae hyn hefyd yn cynnwys cyfarwyddiadau i newid maint ffont eich porwr a sut i ddefnyddio bysellau hwylus.
Mae’r adran gymorth yn rhoi canllawiau i chi ynghylch strwythur y wefan a chynllun y tudalennau yn ogystal â gwybodaeth am ddefnyddio’r cyfleusterau ar y wefan.
Mae map y safle’n dangos cynllun llawn y wefan, sydd wedi’i rhannu’n brif adrannau, ac yn dangos pob tudalen weladwy sydd wedi’i hychwanegu at y wefan. Dylid nodi nad yw’r mwyafrif o’r rhain yn cael eu dangos ar y map o’r wefan oherwydd bod cynifer o ddogfennau busnes yn cael eu cynhyrchu. Mae’n bosibl cyrraedd yr holl dudalennau sydd i’w gweld ar y map o’r wefan drwy ddewis y dudalen dan sylw gan fod linc at bob un.
Mae’r polisi preifatrwydd yn egluro sut y bydd unrhyw wybodaeth y byddwch yn ei rhoi i Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn cael ei defnyddio a’i rheoli.
Yn yr eirfa cewch restr ddefnyddiol yn nhrefn yr wyddor o’r termau a gaiff eu defnyddio ar gyfer busnes y Cynulliad.
I sicrhau nad oes neb yn camddefnyddio’r cyfleusterau ar y wefan, mae Amodau a Thelerau wedi’u paratoi sy’n egluro sut y dylech ddefnyddio’r wefan a pha fath o ymddygiad sy’n dderbyniol ac yn annerbyniol. Bydd yn rhaid cytuno â’r amodau a’r telerau hyn fel rhan o’r broses gofrestru.
Mae’r wybodaeth yn ymddangos ym mhrif ffenestr y wefan. Fe'i darperir ar sawl ffurf, ond bydd tudalennau gwe cyffredin fel rheol ar ffurf html a dogfennau busnes ar ffurf PDF.
Sylwch fod arnoch angen Adobe Acrobat Reader – Fersiwn 7.0.5 er mwyn darllen dogfennau PDF yn yr un ffenestr; hebddo bydd y wybodaeth yn ymddangos mewn ffenestr ar wahân. Os hoffech ddarllen y dogfennau yn yr un ffenestr ond nad oes gennych y fersiwn hon, ewch i wefan Adobe: http://www.adobe.com/products/acrobat/readstep2.html
I'ch helpu i weld pa wybodaeth sydd ym mhob adran ac i sicrhau bod y wefan yn hawdd i’w defnyddio, mae’r dudalen gyntaf ym mhob adran yn rhoi crynodeb ohoni, ynghyd â gwybodaeth ychwanegol am bob is-adran.
Mae hafan y wefan ychydig yn wahanol. Yno, gallwch ddod o hyd i’ch Aelodau Cynulliad yn gyflym, a darllen y newyddion diweddaraf am y Cynulliad Cenedlaethol.
Mae dwy ffordd o argraffu, yn dibynnu ar y math o wybodaeth dan sylw. Dylech argraffu tudalen html gyffredin yn y ffordd arferol gan ddefnyddio’r porwr ar frig y dudalen. Dim ond y wybodaeth ar y brif dudalen gaiff ei hargraffu; ni fydd y pennyn na’r wybodaeth ar yr ochr chwith yn cael eu hargraffu. I argraffu ffeiliau PDF, defnyddiwch y botwm argraffu yn y PDF Reader.
Mae’r wefan wedi’i rhannu’n saith adran, fel y gwelwch o edrych ar ochr chwith y dudalen:
Yn yr adran hon, cyhoeddir newyddion am y Cynulliad Cenedlaethol, ynghyd â gwybodaeth sy'n ddefnyddiol i'r cyfryngau.
Mae'r adran hon yn cynnwys gwybodaeth gyffredinol am Gynulliad Cenedlaethol Cymru a’i gyfrifoldebau, y gwahaniaeth rhwng Cynulliad Cenedlaethol Cymru a Llywodraeth Cynulliad Cymru, a rhaglenni addysg y Cynulliad.
Mae'r adran hon yn cynnwys yr holl ddogfennau sy’n ymwneud â’r busnes y mae'r Cynulliad Cenedlaethol yn ei drafod, ei ystyried a'i gymeradwyo, gan gynnwys deddfwriaeth, busnes y Pwyllgorau a busnes y Cyfarfod Llawn.
Yn yr adran hon, ceir gwybodaeth am Aelodau’r Cynulliad, gan gynnwys y rhanbarthau neu’r etholaethau y maent yn eu cynrychioli, eu bywgraffiadau, a sut i gysylltu â nhw.