Cofrestru ar y safle
Drwy gofrestru, gallwch ddefnyddio rhai o gyfleusterau arbennig y wefan. Caiff y cyfleusterau hyn eu cymedroli i sicrhau mai dim ond defnyddwyr sydd a chyfeiriad e-bost dilys sy’n gallu defnyddio’r wefan. Bydd angen i chi hefyd dderbyn amodau a thelerau’r safle. Mae hyn yn ein helpu ni i ofalu nad yw unigolion yn difrodi’r gwasanaethau a gynigir ar y wefan.
Sut i gofrestru
Gallwch gofrestru mewn tri cam:
Cam 1 o 3 – Cwblhau’r Ffurflen Gofrestru
Er mwyn cofrestru ar y safle, bydd angen i chi gwblhau ffurflen syml. Rydym wedi paratoi canllaw ar sut i gwblhau’r ffurflen.
Wedi i chi gwblhau’r ffurflen, cliciwch ar y botwm ‘Cofrestru’ i fynd i’r ail gam yn y broses.
Cam 2 o 3 – Byddwn yn anfon ebost agor cyfrif i chi
Bydd ebost agor cyfrif (oddi wrth gwefan.cynulliad@cymru.gov.uk) yn cael ei anfon i’r cyfeiriad a nodwyd ar y ffurflen gofrestru. Bydd yr e-bost yn cynnwys dolen i agor eich cyfrif. Rhaid i chi unai glicio ar y ddolen neu ei gopio a’i ludo ar faes cyfeiriadau eich porwr er mwyn agor eich cyfrif.
Cam 3 o 3 – Mae eich cyfrif yn agored ac yn barod i’w ddefnyddio
Bydd dilyn y ddolen yn yr ebost agor cyfrif yn eich arwain i dudalen sy’n cadarnhau bod eich cyfrif wedi ei agor yn llwyddiannus.
Cyfleusterau ar y Wefan
Tanysgrifio
Gall defnyddwyr danysgrifio i ddweud pa adrannau o’r wefan y mae ganddynt ddiddordeb ynddynt. Drwy ddewis eicon y cas ar waelod y dudalen/tudalennau, bydd tanysgrifwyr yn cael neges e-bost bob dydd yn son am unrhyw newidiadau ar y tudalennau hyn. Dim ond un e-bost a anfonnir, waeth faint o’r tudalennau a ddewiswyd sy’n cael eu newid yn ystod y dydd; bydd yr e-bost yn cynnwys dolenni ar gyfer pob un o’r tudalennau a ddewiswyd sydd wedi newid. Gallwch ganfod mwy o wybodaeth am danysgrifio i dudalennau ar dudalen cymorth Tanysgrifio.
Cylchlythyr
Mae'n bosib y bydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn cyhoeddi cylchlythyr electroneg yn y dyfodol, a fydd yn cael ei anfon mewn e-bost i ddefnyddwyr cofrestredig. Os hoffech dderbyn cylchythyr, ticiwch y blwch 'Ie' a dewiswch pa iaith yr hoffech ei dderbyn. Os ydych wedi cofrestru'n barod, ond heb dicio'r blwch i dderbyn y cylchlythyr, gallwch ddewis ei dderbyn drwy glicio ar y ddolen 'Diweddaru eich manylion personol' ar y dudalen 'Fy Manylion'.
Problemau wrth gofrestru
Problemau e-bost agor cyfrif
Nodwch os gwelwch yn dda bod rhai darparwyr cyfrifon e-bost yn ystyried negeseuon gan gwefan.cynulliad@cymru.gov.uk fel spam neu neges sgrwtsh. Rydym yn argymell eich bod yn ychwannegu’r cyfeiriad yma i’ch rhestr o gyfeiriadau e-bost saff. Os nad yw’r e-bost yn cyrraedd eich cyfrif o fewn hanner awr i chi gyflwyno’r ffurflen gofrestru, ewch i’r dudalen Cofrestru – ebost agor cyfrif
Ydych chi wedi anghofio eich cyfrinair?
Os ydych wedi anghofio eich cyfrinair, gallwch ei ail-osod drwy’r dudalen ‘Anghofio eich cyfrinair’
Mae'r system yn adnabod llythrennau is a phriflythrennau, felly nodwch eich cyfrinair yn union fel y gwnaethoch ar y ffurflen gofrestru
