Tanysgrifio

Gall defnyddwyr danysgrifio i ddweud pa adrannau o’r wefan y mae ganddynt ddiddordeb ynddynt. Drwy ddewis eicon y cas ar waelod y dudalen/tudalennau (isod), bydd tanysgrifwyr yn cael neges e-bost bob dydd yn sôn am unrhyw newidiadau ar y tudalennau hyn

.Eicon e-bost hysbysu

Er enghraifft, drwy danysgrifio i unrhyw dudalen Agendâu, papurau a thrawsgrifiadau yn yr adran Fusnes, bydd yr e-bost hysbysu’n cael ei anfon pan fydd unrhyw ddogfennau sy’n ymwneud a chyfarfod penodol yn cael ei gyhoeddi ar y safle. Felly byddai’r rhai sydd a diddordeb mewn darllen cofnodion cyfarfod yn cael eu hysbysu bod y cofnodion wedi eu cyhoeddi ar y wefan yn hwyrach ar yr un diwrnod.

Os oes unrhyw un o’r tudalennau a ddewiswyd wedi newid yn ystod un diwrnod, bydd yr e-bost hysbysu’n cael ei anfon am oddeutu 6pm yn rhestru’r tudalennau a newidwyd. Dim ond un e-bost a anfonnir, waeth faint o’r tudalennau a ddewiswyd sy’n cael eu newid yn ystod y dydd.

Gallwch hefyd ddileu unrhyw dudalennau nad oes gennych ddiddordeb ynddynt drwy fynd i adran ‘Fy Manylion’ ar y safle. Gallwch fynd i’r adran hon drwy ddewis y linc yn y pennyn.

Rydych chi yma :

  1. Hafan
  2. Cymorth
  3. Tanysgrifio

Partneriaid a Help