Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Peiriant Chwilio

Mae gan y wefan hon beiriant chwilio manwl a fydd yn caniatáu i chi chwilio’n fanwl a lleoli’r wybodaeth sydd ei hangen arnoch, gan gynnwys y gallu i goethi’r chwilio i gael hyd i wybodaeth benodol.

Mae’r nodweddion isod yn caniatáu i chi addasu meini prawf y chwilio, gan gyfyngu nifer y canlyniadau a gewch nes y cewch hyd i’r wybodaeth sydd ei hangen arnoch. Mae’n bosibl cyfyngu’r chwilio’n barhaus, gan arbed y meini prawf blaenorol bob tro y byddwch yn chwilio, fel nad oes angen i chi nodi’r un data eto. Mae hynny’n golygu y bydd angen i chi ddewis clirio ffurflen cyn chwilio o’r newydd.

Trosolwg

Bydd y peiriant chwilio yn chwilio am ddogfennau Cymraeg a Saesneg ar y wefan.  Bydd y broses chwilio yn iaith y safle lle dechreuodd y chwilio.   

Collnod

Os oes collnod yn y testun, bydd y chwilio’n parhau gan gynnwys y collnod.

Geiriau allweddol

Chwilio am bob gair
Dylech ddefnyddio’r blwch chwilio i roi unrhyw eiriau allweddol a fydd yn ymddangos yn y ddogfen/dogfennau rydych yn chwilio amdani/amdanynt. Gall y geiriau ymddangos mewn unrhyw drefn yn y ddogfen.

Chwilio am yr union eiriau
Dylech ddefnyddio’r maes hwn ar gyfer yr union eiriau yn y ddogfen neu’r dudalen. Gallwch nodi un cymal neu ragor yn y maes hwn, a’i roi mewn dyfynodau, er enghraifft, “hela llwynogod”  “hela ysgyfarnogod”. Pan fyddwch yn cynnwys mwy nag un cymal, cewch ganlyniadau sy’n cynnwys y ddau gymal. Bydd angen i’r union gymal ymddangos yn y testun rydych yn disgwyl cael hyd iddo os yw’r peiriant chwilio am lwyddo.   

Chwilio am o leiaf un o’r geiriau
Dylech ddefnyddio’r blwch chwilio hwn i nodi unrhyw eiriau allweddol a all ymddangos yn ddogfen/dogfennau rydych yn chwilio amdani/amdanynt. Mae hyn yn caniatáu i ddefnyddwyr nodi mwy o eiriau allweddol nag sydd eu hangen mewn gwirionedd yn y canlyniadau, gan nad ydynt i gyd yn angenrheidiol. Mae hyn yn ddefnyddiol os oes ansicrwydd ynglyn â’r union eiriau yn y tesun.

Chwilio gan hepgor
Dim ond gyda’r opsiynau O LEIAF UN O’R GEIRIAU neu BOB GAIR uchod y mae hyn yn bosibl. Er enghraifft, os nodwch nifer o eiriau yn y blwch BOB GAIR, gallwch hefyd nodi geiriau yn y blwch ‘chwilio gan hepgor’ i hidlo unrhyw ddogfennau sy’n cynnwys yr holl eiriau yn y blwch BOB GAIR a dim un o’r geiriau yn y blwch ‘hepgor’.  

Categori

Chwilio yn ôl categori
Mae hwn yn caniatáu i chi hidlo’r canlyniadau drwy chwilio am ddogfennau sydd wedi’u dosbarthu drwy ddefnyddio prif adrannau’r wefan. Er y bydd y chwilio wedi’i goethi, does dim angen llawer o wybodaeth am y math o ddogfen rydych chi’n chwilio amdani.

Os dewiswch Bwyllgor a chlicio’r botwm ‘mwy’, cewch restr lawn o’r Pwyllgorau ar gyfer y Cynulliad hwnnw, gan adael i chi ddewis un neu ragor o’r pwyllgorau hyn.

Sylwch y gallwch chwilio am ddogfen yn ôl Categori ac yn ôl Math o Ddogfen yr un pryd. Bydd y system yn chwilio drwy’r ddwy adran yn annibynnol ar ei gilydd a bydd y canlyniadau’n cynnwys dogfennau y ceir hyd iddynt yn y naill adran neu’r llall.

Chwilio yn ôl math o ddogfen

Mae’r rhan hon o’r Chwilio Manwl yn caniatáu i chi gyfyngu’r chwilio i fathau arbennig o wybodaeth busnes sy’n cael eu cadw ar y safle.

Sylwch y gallwch chwilio am ddogfen yn ôl Categori ac yn ôl Math o Ddogfen yr un pryd. Bydd y system yn chwilio’r ddwy adran yn annibynnol ar ei gilydd a bydd y canlyniadau’n cynnwys dogfennau y ceir hyd iddynt yn y naill adran neu’r llall.

Chwilio yn ôl ffurf y ddogfen
Mae’r dewis hwn yn caniatáu i chi chwilio am ddogfen ar fformat penodol. Bydd yr opsiynau sydd ar gael i chi yn yr adran hon yn dibynnu ar fformat y wybodaeth. Mae bron  pob dogfen fusnes hanesyddol ar fformat PDF, tra bo’r holl ddogfennau a’r tudalennau newydd yn ymwneud â’r trydydd Cynulliad ar fformat html.

Dyddiad

Mae’n bosibl cyfyngu’r chwilio yn ôl dyddiad. Y dyddiad a ddefnyddir yn y chwilio yw’r dyddiad y cafodd yr eitem ei diweddaru ddiwethaf.  Mae’n bosibl cael achosion, fodd bynnag, lle cafodd dogfen yn ymwneud â’r Cynulliad Cyntaf ei diweddaru yn ystod cyfnod yr Ail Gynulliad. Felly, ni fydd y ddogfen hon yn ymddangos yng nghyfnod ‘cywir’ y Cynulliad Cyntaf. Awgrymwn eich bod yn chwilio drwy nodi categori yn yr achosion  hyn.

Mae dwy ffordd o ddewis yn ôl dyddiad:

Chwilio am ddogfennau a gyhoeddwyd
Mae’r maes hwn yn diffinio’r cyfnod o’r diwrnod y cafodd y ddogfen ei diweddaru neu ei chyhoeddi. Dyma’r dewisiadau sydd ar gael: 7, 14, 30, 90 diwrnod neu 1 flwyddyn

Dewis cyfnod penodol
Mae’r dewis hwn yn caniatáu i chi nodi cyfnod penodol drwy roi dyddiad cyntaf a dyddiad olaf y cyfnod hwnnw.    

Canlyniadau

Nifer y canlyniadau ar bob tudalen

Gallwch nodi nifer y canlyniadau yr ydych am eu gweld ar bob tudalen. Dyma’r dewisiadau sydd ar gael: 5, 10, 15, 20 a 50. Os na fyddwch yn newid y rhif, cewch 10 canlyniad ar bob tudalen.

Cuddio disgrifiadau yn y rhestr ganlyniadau

Oherwydd yr holl wybodaeth y mae’n bosibl ei chynnwys ar y dudalen ganlyniadau, mae’r opsiwn hwn yn caniatáu i chi guddio’r disgrifiadau ar y dudalen gan ddangos dim ond teitl y ddogfen. Mae hyn yn ddefnyddiol os ydych wedi dewis gweld nifer fawr o ganlyniadau ar bob tudalen.

Iaith

Chwilio am ddogfennau

Mae’r opsiwn hwn yn caniatáu i chi roi gair a chwilio naill ai yn y fersiwn Saesneg neu’r fersiwn Cymraeg. Bydd y rhan fwyaf o’r wybodaeth ar gael yn y ddwy iaith, ond nid bob amser – er enghraifft, papurau a gyflwynir i Bwyllgorau gan gyrff allanol.

Bôn gair

Mae’n bosibl chwilio gan ddefnyddio bôn gair – mae hyn yn golygu bod y chwilio’n ehangu i gynnwys amrywiadau gramadegol ar air. Er enghraifft, wrth chwilio am ‘pysgodyn’ byddech hefyd yn cael hyd i ‘pysgota’. Wrth chwilio am ‘defnyddiodd’  byddech hefyd yn cael hyd i ‘defnyddio’, ‘defnydd’ a ‘defnyddiwyd’.

Chwilio’n drylwyr

Dim ond drwy ddewis chwilio’n drylwyr y mae’n bosibl defnyddio’r pedwar dewis a ganlyn.  Nid yw’r dewisiadau hyn i’w gweld yn y Chwilio manwl oherwydd bod y cyfleuster mor gymhleth

Canlyniadau Tebyg

Gallwch ddewis gweld rhestr o ganlyniadau tebyg a all fod yn berthnasol i’r meini prawf a ddefnyddiwyd i chwilio, hyd yn oed os nad yw’r termau a nodwyd yn ymddangos yn unman yn y dogfennau a restrir.

Bydd y canlyniadau tebyg yn cynnwys dogfennau sy’n cynnwys termau sy’n debyg i’r termau a nodwyd yn y blwch chwilio. Er y bydd y termau’n debyg, gall dechrau a/neu ddiwedd y term fod yn wahanol. Drwy chwilio am “llythyr” er enghraifft, byddai’r canlyniadau’n cynnwys dogfennau sy’n cynnwys ‘llythyrau’, ‘llythyru’ etc. Byddech hefyd, fodd bynnag,  yn cael dogfennau’n cynnwys termau amherthnasol hefyd fel ‘llythyren’ etc.

Geiriau’n cyd-daro

Drwy chwilio yn ôl geiriau’n cyd-daro, gallwch nodi’r pellter posibl rhwng geiriau allweddol. Er enghraifft, drwy chwilio am “bwyd a diod” a nodi pellter o 2 air, byddai’r canlynol yn cael eu cynnwys yn y canlyniadau :
- bwyd a diod
- dim bwyd na diod
- bwyd nid diod
Ond ni fyddai’r rhain yn cael eu cynnwys:
- …roedd y bwyd yn dda ond doedd dim diod
- bwytwch eich bwyd ac yfwch eich diod

System Soundex

Os nad ydych wedi sillafu gair allweddol yn hollol gywir, ond ei fod yn seinegol gywir, gallwch ddefnyddio system Soundex i chwilio am ddogfennau sy’n cynnwys y gair allweddol a gair allweddol sy’n swnio’n debyg (drwy ddefnyddio algorithm Soundex).

Geiriau cyfystyr

Drwy ddewis geiriau cyfystyr, cewch ganlyniadau sy’n cynnwys geiriau sydd â’r un ystyr â’r gair a nodwyd. Er enghraifft, os byddwch yn chwilio am ‘cyflym’ bydd y peiriant chwilio hefyd yn chwilio am ‘sydyn’

Tudalen Ganlyniadau

Ar y dudalen ganlyniadau, mae’n bosibl ymchwilio i’r canlyniadau ymhellach, gan gynnwys cael hyd i’r wybodaeth yn yr iaith arall (Cymraeg neu Saesneg).  

Oeddech chi’n bwriadu chwilio am
Yn y blwch ‘oeddech chi’n bwriadu chwilio am’ awgrymir termau eraill y gallwch eu defnyddio os na chafwyd hyd i’r termau gwreiddiol neu os nad ydynt yn gyffredin iawn. Drwy glicio ar y linc, gallwch chwilio eto gan ddefnyddio’r gair/termau a awgrymwyd.

Didoli Canlyniadau

Yn ôl dyddiad (y diweddaraf yn gyntaf)
Cewch restr o’r canlyniadau perthnasol, gyda’r diweddaraf yn gyntaf.

Yn ôl perthnasedd
Cewch restr o’r canlyniadau gyda’r mwyaf perthnasol yn gyntaf. Penderfynir ar berthnasedd dogfen drwy ystyried i ba raddau y mae ei chynnwys yn cyd-fynd â’r termau a’r amodau a ddewiswyd ar gyfer y chwilio. Wrth benderfynu ar berthnasedd bydd y peiriant chwilio’n ystyried y canlynol:

  • Sut y mae’r termau wedi’u dosbarthu drwy’r holl ddogfennau. Felly nid yw termau cyffredin mor arwyddocaol â thermau  llai cyffredin
  • Sawl gwaith y mae’r termau’n codi yn y dogfennau. Felly mae dogfennau sy’n cynnwys nifer o enghreifftiau o’r termau yn cael statws uwch na’r dogfennau sy’n cynnwys dim ond un neu ddwy  enghraifft.  

Y dogfennau hynny sy’n cynnwys geiriau sydd fwyaf perthnasol i’r termau chwilio, ac sy’n cynnwys y nifer fwyaf o enghreifftiau, fydd yn cael eu rhestru gyntaf.

Dangos y canlyniadau yn:

Gallwch chwilio drwy’r wefan eto yn yr iaith arall. Felly os na chawsoch hyd i ddogfen benodol yn y fersiwn Saesneg o’r wefan, gallwch chwilio drwy’r fersiwn Cymraeg. Sylwch mai’r gair/term gwreiddiol gaiff ei ddefnyddio ac na chaiff ei gyfieithu.  

Iaith y canlyniadau:

Mae iaith y dogfennau a restrir yn y canlyniadau wedi’i nodi wrth ymyl eu teitlau. En sydd i’w weld os yw’r ddogfen ar gael yn Saesneg a Cy os yw’r ddogfen ar gael yn Gymraeg.